Ychwanegwyd: 11/11/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.2K

Dŵr, Haul, Gwynt, Golau (rhan o brosiect Seiniau Uchel, Carbon Isel)

Disgrifiad

Mae prosiect 'Seiniau Uchel, Carbon Isel', sef prosiect Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda Phontio ag M-SParc, ac wedi ei noddi gan y Coleg Cymraeg, yn trefnu perfformiad cerddorol/fideo fydd yn cael ei ffrydio yn fyw ar sianel AM.

Fel rhan o'r prosiect, fe fydd y pianydd a'r cyfansoddwr Tristian Evans yn perfformio’r gwaith aml-gyfrwng 30 munud ‘Dŵr, Haul, Gwynt, Golau’. Wedi’i ysbrydoli gan eiriau hen a newydd yn ymwneud â’r amgylchedd, mae Tristian wedi cyfansoddi darnau i’r piano mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Gan fabwysiadu’r broses o ailgylchu mewn cyd-destun creadigol, mae’n plethu hen alawon crefyddol, deunydd gweledol o’r archif, testunau o’r Beibl, a lleisiau ieuenctid, ac fe ddaw’r cyfan yn fyw mewn dau waith amlgyfrwng i’r piano.

Mae Dŵr, Haul, Gwynt, Golau yn integreiddio geiriau amgylcheddol gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â delweddau sy’n cyd-fynd hefo sgôr i’r piano. Yna perfformir Tir (Creadigaeth/Etifeddiaeth), sydd yn ymateb i’r syniad o greadigaeth ac etifeddiaeth o’r ddaear, wedi’i ddylanwadu gan gyfeiriadau Beiblaidd a chefndir teuluol y pianydd ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fe fydd y perfformiad yn para oddeutu hanner awr ar 25 Tachwedd 2020 (19:30)

Cliciwch isod am fwy o wybodaeth

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Astudiaethau Ffilm, Teledu a Chyfryngau, Cerddoriaeth
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
llun gyda teitl seiniau uchel carbon isel

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.