Wyt ti eisiau dysgu sut i fachu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol? Beth am greu cynnwys fydd yn cael ei rannu i bob cwr o'r ryngrwyd? Eisiau tips gan yr arbenigwyr? Mae Sbia ar Hwn yn gwrs digidol newydd i dy helpu i lwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r cwrs digidol hwn wedi'i ddylunio i helpu myfyrwyr a disgyblion ysgol i baratoi ar gyfer gweithio ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar sut i fachu a hoelio sylw, creu cynnwys gafaelgar, sut i gyflwyno straeon newyddion a defnyddio'r Gymraeg yn effeithiol i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.