Mae’r fideos ‘Cyffro Cyfryngau’ yn dangos profiad chwe pherson sy’n gweithio o fewn y diwydiant teledu.
Mae’r fideos yn canolbwyntio ar raglenni darlledu byw gan ddangos yr unigolion yn gweithio yn eu meysydd gwahanol sef colur, camera, cynhyrchu, cyfarwyddo, golygu a chyflwyno.
Cawn glywed am ei angerdd at y proffesiwn a’r pleser maent yn cael allan o’r gwaith; mae pwyslais ar eu balchder o weithio yng Nghymru a gweithredu yn Gymraeg.
Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Drama, Cyfryngau, Asudiaethau Theatr, Celfyddydau Perfformio yna byddwch yn dysgu pam mor werthfawr ydi'r sgil o ddefnyddio'r Gymraeg yn y maes yma yng Nghymru.
Cyffro Cyfryngau
Profi
Gwefan i unigolion 14-18 mlwydd oed a hÅ·n i ddysgu mwy am sgiliau byd gwaith a sut i gadw cofnod o'u datblygiad wrth ymgymryd â phrofiadau a dysgu sgiliau newydd.
Tregyrfa
Adnodd digidol sy'n cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Datblygwyd gwefan Tregyrfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bwriad Tregyrfa yw rhannu gwybodaeamth am y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r maes gofal.
Sêr Cemeg Cymru
Cyfres o fideos sy'n cyflwyno gwaith dydd i ddydd Cemegwyr mewn labordai yng Nghymru a thu hwnt. Cyhoeddwyd yn wreiddiol fel rhan o weithgareddau Eisteddfod Amgen 2021.
Cyllidwyd y prosiect gan y Royal Society of Chemistry. Diolch i Telesgop am gynhyrchu ac i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am rannu.
Myfyriwr Adeiladu
Adnodd ar gyfer myfyrwyr adeiladu (Lefel 1 a 2) sy’n canolbwyntio ar gyflwyniad a pherthnasedd sgiliau ymarferol, yn benodol gwaith coed a gwaith saer, plastro, bricwaith a pheintio ac addurno. Mae’n pontio’r agendor rhwng tasgau go iawn a gweithgareddau'r ystafell ddosbarth trwy gyfrwng clipiau fideo byrion o gyfweliadau â gweithwyr ifanc yn y diwydiant adeiladu wrth eu gwaith, a chlipiau byrion o dasgau go iawn yn cael eu cyflawni ar y safle adeiladu.
Datblygwyd yr adnodd gan Cwmni Cynnal ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan HWB.
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gofal Cymdeithasol (Blynyddoedd Cynnar)
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector gofal cymdeithasol (blynyddoedd cynnar). Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gyrfaoedd Gofal Iechyd
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector iechyd. Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith.
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gyrfaoedd yn y Gwasanaeth Tân ac Achub
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 gan Gyrfa Cymru i ddarganfod mwy am yrfa yn y Gwasanaeth Tân. Bydd dysgwyr yn gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith.
Adnoddau Ymwybyddiaeth Iaith Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Dyma ddolen i adran benodol ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae pob rôl o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd unigolion yn cael eu hasesu ar eu gallu Cymraeg llafar. Mae’r adnoddau ar y wefan yn cynorthwyo unigolion i baratoi am yr asesiad. Mae’r adnoddau yma’n berthnasol i unigolion sydd â diddordeb mewn cychwyn gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Datblygu gweithlu a chymunedau dwyieithog y dyfodol
Cynhaliwyd digwyddiad ar y cyd â ColegauCymru ar ffurf weminar Zoom, gyda gwleidyddion o’r dair prif blaid yng Nghymru i drafod cyfraniad y sector ôl-16 at y nod o greu gweithlu a chymunedau dwyieithog a miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle i glywed yr hyn y mae’r pleidiau yn ymrwymo i wneud er mwyn symud y gwaith o ran datblygu dwyieithrwydd y sector ôl-16 yn ei blaen yn ystod tymor nesaf y Senedd yn ogystal â blaenoriaethau’r Coleg Cymraeg a ColegauCymru.
Gallwch wylio'r sesiwn wrth glicio ar y ddolen isod:
Lletygarwch – Cyflwyno Gwasanaeth Cwsmer Ardderchog
Mae gofal cwsmer gwych yn rhan annatod o weithio mewn sawl maes ond yn enwedig ym maes lletygarwch.
Ceir isod fideo sy'n cyflwyno 8 awgrym ar gyfer cynnal gwasanaeth cwsmer lletygarwch ardderchog.
Yn ogystal, mae fideo sy'n cyflwyno cwmni Hyfforddiant Cambrian i’r prentis ac yn amlinellu’r ystod o wasanaethau sydd ar gael.
Datblygwyd yr adnoddau isod gan Hyfforddiant Cambrian dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir ystyried y cynnwys hwn yn arfer da a gall y cyflwyniadau fod o ddefnydd i ddarparwyr prentisiaethau o fewn meysydd eraill.
Fideo Gofalwn Cymru (Helen Dobson, Gwaith Cymdeithasol)
Fideo o Helen Dobson (Gweithiwr Cymdeithasol) sy'n rhan o ymgyrch #GofalwnCymru 2020
Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol.
Gallwch weld rhagor o astudiaethau achos ar wefan Gofalwn.Cymru