Cerdd newydd, 'Mamiaith' gan Rhys Iorwerth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 2021. Yn cynnwys fideo o'r gerdd a chopi PDF o'r geiriau ar gyfer deunydd astudio.
© Rhys Iorwerth 2021
Cerdd newydd, 'Mamiaith' gan Rhys Iorwerth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 2021. Yn cynnwys fideo o'r gerdd a chopi PDF o'r geiriau ar gyfer deunydd astudio.
© Rhys Iorwerth 2021
Mae'r modiwl ar-lein hwn yn edrych ar bwysigrwydd sgiliau da yn y Gymraeg wrth fynd i’r byd gwaith. Mae’n ystyried yn benodol beth yw manteision parhau i astudio’r Gymraeg ar ôl TGAU. Mae’r modiwl wedi ei anelu yn bennaf at ddisgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion. Gall hefyd fod o ddefnydd i unrhyw un sydd eisiau dysgu am le a statws y Gymraeg yn y Gymru gyfoes a sut gallwn ni gyd wneud cyfraniad i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Cyfres o adnoddau hylaw i loywi iaith ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon. Gall y deunydd gael ei ddefnyddio gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol i wirio adnoddau a chynlluniau gwersi.
Dyma gasgliad o sgriptiau a chlipiau sain ar gyfer dysgwyr Cymraeg Gwaith ar lefel Mynediad sy’n mynd law yn llaw ag unedau 1-10. Mae’r adnoddau hyn yn atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd yn y dosbarth (gan staff mewn addysg uwch ac mewn addysg bellach) ac maen nhw’n addas ar gyfer dechreuwyr.
Datblygwyd yr adnoddau hyn o dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel rhan o brosiect a gydlynir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.