Recordiadau o ddau sesiwn ar-lein i ddisgyblion sydd yn ystyried astudio'r gyfraith neu droseddeg yn y brifysgol. Mae'n gyfle da i ddarpar-fyfyrwyr gael syniad o'r math o yrfa gall rhywun ddilyn gyda gradd yn y pynciau hynny. Gall hefyd apelio at fyfyrwyr prifysgol sy'n ystyried eu gyrfa a chamau nesaf wedi graddio. Yn y sesiwn gyntaf mae gennym siaradwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ac sydd nawr yn gweithio yn y maes. Mae'r ail sesiwn yn cynnwys cyfranwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ond aeth ymlaen i ddilyn gyrfa tu hwnt i'r pynciau hynny.
Sesiynau Holi 'Pa Yrfa?' Gradd Cyfraith neu Droseddeg
Ap Chwaraeon trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cefnogaeth i allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â Chwaraeon. Mae'r ap wedi'i rannu mewn i'r unedau canlynol: Geirfa ac ymadroddion cyffredinol Sgwrsio Chwaraeon Y Corff Y System Sgerbydol Cymalau Ffitrwydd Cymorth Cyntaf Hyfforddi
Fideos Rhannu Arfer Dda
Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglŷn â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol yw’r adnodd hwn. Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr. Mae’r casgliad yn cynnwys: • canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd. • dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd. • posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
Darlith Wadd: Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Yn y ddarlith wadd hon, mae Dafydd Llywelyn yn trafod Cynllun Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Recriwtio BAME a dylanwad yr ymgyrch 'Mae Bywydau Duon o Bwys'. Mae'r ddarlith yn addas ar gyfer dysgwyr ysgol, a myfyrwyr sy'n astudio yn y maes Heddlua / Troseddeg / Gwasanaethau Cyhoeddus.
Adnoddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy'n astudio cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus ar Lefel 3. Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawr lwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran y Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu
Adnoddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy'n astudio cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus ar Lefel 2. Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawr lwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran y Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
Adnoddau Ymwybyddiaeth Iaith Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Dyma ddolen i adran benodol ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae pob rôl o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd unigolion yn cael eu hasesu ar eu gallu Cymraeg llafar. Mae’r adnoddau ar y wefan yn cynorthwyo unigolion i baratoi am yr asesiad. Mae’r adnoddau yma’n berthnasol i unigolion sydd â diddordeb mewn cychwyn gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Adnoddau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru
Dyma ddolen i adran benodol ar wefan Heddlu Gogledd Cymru sy’n cynnwys adnoddau i gynorthwyo unigolion sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae pob rôl o fewn HGC yn gofyn am lefel o sgil Cymraeg. Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd unigolion yn cael eu hasesu ar eu gallu Cymraeg llafar. Mae’r adnoddau ar y wefan yn cynorthwyo unigolion i baratoi am yr asesiad. Mae’r adnoddau yma’n berthnasol i unigolion sydd â diddordeb mewn cychwyn gyrfa gyda’r Heddlu.
Fideos 'Ar Frys' - defnyddio'r Gymraeg mewn swyddi Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r fideos 'Ar Frys' hyn yn dangos profiad saith person sy'n gweithio mewn swyddi pwysig, sydd o dan llawer o straen ac sy'n gweld y fantais o allu siarad â phobl yn y Gymraeg. Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus neu Iechyd a Gofal, yna byddwch yn dysgu sut i ddelio â'r cyhoedd – yn enwedig mewn sefyllfa o argyfwng neu berygl. Gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, rydych yn rhoi'r dewis i'r person sydd mewn argyfwng i siarad yr iaith y maen nhw fwyaf cyfforddus yn ei siarad. O ganlyniad, byddwch yn cyflawni’ch gwaith i safon uwch. Cynhyrchwyd y fideos yma gan Coleg Cambria.
Ap Gwasanaethu Trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgywr a gweithwyr ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r cyhoedd. Mae’r geirfa sy’n cael ei ddefnyddio o fewn yr ap yn cyd-fynd gyda’r eirfa ar fanyleb Pearson BTEC Lefel 3 Diploma Estynedig Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r ap yn cynnwys clipiau sain o dermau a geirfa defnyddiol i helpu defnyddwyr gyda ynganu geirfa, ynghyd â cwisiau rhyngweithiol i brofi gwybodaeth.
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.