J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol Ac Onide
Yr Argyfwng Gwacter Ystyr – J. R. Jones
Saunders Lewis a Williams Pantycelyn – R. Tudur Jones
Darlith Goffa Henry Lewis 1987 a draddodwyd gan R. Tudur Jones. Edrycha'r awdur ar ymdriniaeth Saunders Lewis o weithiau Williams Pantycelyn gan ail-ystyried dadansoddiad Saunders Lewis o ddiwinyddiaeth a datblygiad Pantycelyn. Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod). I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF. I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.I ddarllen yr e-lyfr ar Kindle, lawrlwythwch y ffeil Mobi. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Mamwlad (cyfres 1) (2012)
Cyfres yn olrhain hanes merched arloesol Cymru dros y blynyddoedd.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaith Pantycelyn: Detholiad – Gomer M. Roberts (gol.)
Detholiad o gant o emynau William Williams Pantycelyn ynghyd â dwy farwnad, dyfyniadau o gerddi hirach a darnau o ryddiaith. Ceir yma hefyd ragarweiniad i fywyd Pantycelyn, y diwygiad Methodistaidd a rôl oddi mewn iddo. Trafodir arbenigedd ei waith yn gryno yn ogystal.
Gwenallt: Bardd Crefyddol – J. E. Meredith
Darlith a draddodwyd yn wreiddiol ym Mhrifysgol Caerdydd yn Mehefin 1970 gan J. E. Meredith yn ystyried dylanwad Cristnogaeth yng ngherddi Gwenallt. Mae ysgrif nodedig Gwenallt, Credaf, o'r gyfrol o'r un enw wedi ei hailgyhoeddi yma hefyd.
Hanes yr Oesoedd Canol
Yn y casgliad hwn ceir adnoddau sy'n cefnogi'r astudiaeth o hanes yr Oesoedd Canol. Mae'r adnoddau'n deillio o brosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu deunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg safonol yn rhoi cyflwyniadau i bynciau a themâu sylfaenol yn hanes yr Oesoedd Canol.
Llefydd Sanctaidd (2013)
Taith o gwmpas rhai o lefydd mwyaf sanctaidd Ynysoedd Prydain yng nghwmni Ifor ap Glyn.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caradoc Evans: Ffrae My People (2015)
Yn 1915 cyhoeddwyd cyfrol o straeon byrion yng Nghymru greodd storm o atgasedd yn erbyn yr awdur a'i waith. Roedd byd tywyll Caradoc Evans yn 'My People' yn ddarlun hunllefus ac heriol o fywyd y capeli a'r gymdeithas Gymraeg wledig. Gorchmynodd Prif Gwnstabl Caerdydd i gopiau o'r llyfr gael eu llosgi'n gyhoeddus. Disgrifiodd y 'Western Mail' y straeon fel 'the literature of the sewer' gan ddweud mai Caradoc oedd '...the best-hated man in Wales'. Ni welwyd y fath gasineb ym myd y celfyddydau yng Nghymru - gynt nac wedyn. Ond erbyn heddiw prin ydy'r bobl sy'n cofio'r straeon na'u hawdur a gorddodd y dyfroedd yng Nghymru. Gan mlynedd yn ddiweddarach bydd Beti George yn mynd ar drywydd Caradoc Evans gan rannu blas o'i straeon gothic. Bydd yn olrhain ei ddylanwad pellgyrhaeddol ar ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ac yn holi beth yn ei fagwraeth yn Rhydlewis, yn ne Ceredigion, a yrrodd Caradoc i greu byd sinistr 'My People'? Gorilla, 2015.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones am berthynas dirywiad addoli Cristnogol yng Nghymru â chrebachiad hunaniaeth y Cymry a'r iaith Gymraeg.
Ac Onide – J. R. Jones
Yma, mae J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl ac i'r argyfyngau dynol yn ein hoes ni a gynhyrfodd feddylwyr tebyg i Wittgenstein, Simone Weil a Tillich. Ceir hefyd ffeil sain o J. R. Jones ei hun yn areithio. Teitl yr araith yw 'I Ti y Perthyn ei Ollwng', sef Rhan Tri: 3 o Ac Onide.
Cynan Llwyd, 'Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder': Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)' (2017)'
Yn yr erthygl hon, dadleuir sut y dylanwadodd credoau Morgan John Rhys (1760–1804) ynghylch yr Ailddyfodiad a'r Milflwyddiant ar ei ymwneud ef â'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Chwyldro Ffrengig ac America. Dangosaf sut yr oedd Milflwyddiaeth yn rym a luniai fydolwg Morgan John Rhys ac a lywiai ei weithredoedd a'i ymgyrchoedd cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, dangosir sut y bu i William Williams, Pantycelyn (1717–91), ragflaenu Morgan John Rhys yn y cyd-destun hwn. Dadleuir, wrth astudio Williams a Rhys, na ellir cyfrif Efengyliaeth a'r Oleuedigaeth yn elynion deallusol i'w gilydd, ac mai Milflwyddiaeth oedd un o'r grymoedd pwysicaf ym mywydau'r ddau ddyn hyn a chwaraeodd ran dylanwadol iawn ym mywyd Cymru'r ddeunawfed ganrif. Cynan Llwyd, '“Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder”: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 85-98.
Cynhadledd Crefydd a'r Byd Modern
Mae'r adnoddau hyn yn deillio o gynhadledd undydd a gynhaliwyd ym mis Medi 2014 ar y pwnc 'Crefydd yn y Byd Cyfoes', dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y nod oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr israddedig a disgyblion chweched dosbarth ddod ynghyd i drafod materion crefyddol sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir yma rai o'r cyflwyniadau a gafwyd ar y testunau canlynol: Seciwlariaeth Ffwndamentaliaeth Dyfodiad yr Apocalyps Freud