Ychwanegwyd: 08/12/2025 Dyddiad cyhoeddi: 2025 6 Cymraeg Yn Unig

Beth yw ystyr bywyd? ... a chwestiynau mawr eraill

Disgrifiad

Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd – fel mae’r teitl yn ei awgrymu – yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.

Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw.  Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell!)

Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Hanes, Daearyddiaeth, Athroniaeth, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Gwleidyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
Graffeg 'Beth yw ystyr bywyd a chwestiynau mawr eraill' yn dangos lluniau o rai o'r cyfranwyr.

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.