Canllawiau adolygu a ddarparwyd yn garedig iawn gan Goleg Gwent i gynorthwyo myfyrwyr a dysgwyr sy'n eistedd arholiad TGAU Mathemateg. Ceir pecyn ar gyfer yr haen sylfaenol a phecyn ar gyfer yr haen ganolradd. Diolch i Goleg Gwent am rannu'r pecynnau.
Canllawiau Adolygu Mathemateg TGAU
Byd Rhithiol Gwrth-Hiliaeth Llywodraeth Cymru
Ar y cyd â mXreality, ac wrth weithio â thimau sy’n arbenigo yn y pwnc o Goleg Caerdydd a’r Fro, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu amgylchedd metafyd 3D trochol, hygyrch ac eang, sy’n cynnwys pum ardal yn ymwneud â gwahanol themâu. Maent yn edrych ymlaen at rannu profiadau, straeon a hanesion gyda chi. Gwahoddir chi i ymgysylltu â phrofiad dysgu trochol, a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r byd. Wrth ichi archwilio’r byd hwn, gofynnir ichi ymgysylltu â’r adnoddau a myfyrio ar eu harwyddocâd. Dyma gyfle i chi ddysgu am y diwylliannau a’r traddodiadau sy’n ffurfio rhan o’n cyd-hunaniaeth. Mae'r Metafyd yn cynnwys yr ardaloedd canlynol: Profiadau Mae’r Metafyd Profiadau wedi’i leoli ar stryd o dai pâr cynrychiadol yng Nghymru, gyda mynediad at chwe thŷ (tri ar bob ochr o’r stryd). Ym mhob un o’r tai, gallwch ddysgu mwy am gefndir a diddordebau’r unigolion sy’n byw yno drwy wylio’r fideo sy’n chwarae ar y teledu a thrwy glicio ar rai o’r eitemau rhyngweithiol (a nodwyd gan eicon tri smotyn) yn yr ystafell fyw. Astudiaethau Trochol Mae’r Metafyd Astudiaethau Trochol yn cynnwys prif ardal lefel is a thair ardal lefel uwch. Mae gan y brif ardal amrywiaeth o eitemau o ddiddordeb geometregol oherwydd eu siapiau a’u patrymau, sy’n dangos y cysylltiad rhwng mathemateg, gwyddoniaeth a natur. Gallwch ddysgu mwy am yr eitemau hyn drwy glicio arnynt. Mae Cod QR i’w weld ar banel ger rhai eitemau hefyd, y gellir ei sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais. Mae’r lefel uwch yn cynnwys: ystafell Mathemateg – yn galluogi ymwelwyr i archwilio pwysigrwydd a hanes rhifau a siapiau mathemategol a geometregol Ystafell Gwallt a Harddwch – yn galluogi ymwelwyr i ymgyfarwyddo â hanes a gwreiddiau gwallt a harddwch Ystafell Dyfeisiadau – yn addysgu ymwelwyr am rai dyfeisiadau arwyddocaol a chyfraniadau cynnar i fywyd cyfoes Llinell Amser y Byd Mae Metafyd Llinell Amser y Byd yn cynnwys prif ardal ganolog a phedwar rhanbarth daearyddol, a gallwch gael mynediad at bob un ohonynt drwy dwnnel o’r ardal ganolog. Mae pob twnnel yn arddangos gwybodaeth sy’n cyflwyno cefndir, hunaniaeth a delwedd unigolyn cynrychiadol o’r rhanbarth hwnnw. Mae pob un o’r pedwar rhanbarth (y manylir arnynt isod), yn cynnwys pedwar cyfnod amser, sy’n galluogi ymwelwyr i brofi pensaernïaeth, delweddau a gwybodaeth gynrychiadol mewn perthynas â’r oes hynafol, yr oesoedd canol, y cyfnod modern cynnar, a’r byd heddiw. Y pedwar rhanbarth sydd ar gael yn y Metafyd hwn yw: Affrica, Is-gyfandir India, Y Dwyrain Canol a Gogledd Ewrop. Wrth ichi symud o gwmpas llinell amser y byd, yn yr ardal ganolog ac ym mhob un o’r rhanbarthau, mae eitemau rhyngweithiol y gallwch glicio arnynt yn cysylltu â fideos sy’n cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol. Mae Codau QR ar gael yn rhai o’r rhanbarthau hefyd, y gellir eu sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais. Y Cwricwlwm Mae'r adran hon yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bynciau y saeniwyd yn ofalus er mwyn sichrau y bydd eu cynllun yn wrth-hiliol. Mae'r adran yn cynnwys y pynciau canlynol: Cymdeithaseg Gwallt a Harddwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffeministiaeth Ddu Gwleidyddiaeth Mathemateg Astudiaethau Ffilm Athroniaeth Affricanaidd Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill Addysg Sylfaenol i Oedolion Anghenion Dysgu Ychwanegol Sesiwn tiwtorial
Gweithdai Mathemateg 2023
Awydd astudio Mathemateg yn y brifysgol? Eisiau cael blas ar fywyd myfyriwr Mathemateg a darganfod at ba yrfa y gallai gradd Mathemateg arwain? Dyma’ch cyfle i gael ragor o wybodaeth, cael blas ar fodiwlau a holi’ch cwestiynau i ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr! Fel rhan o’r gyfres bydd tri gweithdy byw ar-lein. Bydd y ddau gyntaf yn cael eu harwain gan ddarlithwyr Mathemateg o brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac fe’u cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod y gweithdai hyn, bydd cyfle i chi gael blas ar fodiwl prifysgol; cyfarfod a dod i adnabod darlithwyr cyfrwng Cymraeg; gael rhagflas o'r hyn y mae'r brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr sy'n astudio Mathemateg yn Gymraeg (e.e. dewis o fodiwlau, y math o gyrsiau sydd ar gael – anrhydedd sengl, cyfun); holi unrhyw gwestiynau. Cyflogadwyedd fydd ffocws y gweithdai olaf. O gyfrifydd i beiriannydd meddalwedd i feteorolegydd, mae gradd mewn Mathemateg yn agor llu o ddrysau. Bydd graddedigion Mathemateg sydd bellach yn y byd gwaith yn rhannu eu profiadau o fuddion gradd mewn Mathemateg, sut mae’r radd wedi eu helpu yn eu gyrfa ac yn rhoi rhagflas o’i gwaith. Y GWEITHDAI: Nos Iau 9 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Aberystwyth Dr Tudur Davies a Dr Gwion Evans fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Geometreg arwynebau minimol’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Nos Iau 16 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Caerdydd Dr Dafydd Evans, Dr Mathew Pugh a Dr Geraint Palmer fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Hapgerddediadau’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Dydd Llun 19 Mehefin 2023, 9:30yb, Cyflogadwyedd Dewch i glywed am yr ystod eang o yrfaoedd sydd modd i chi eu hystyried ar ôl astudio gradd Mathemateg a chlywed profiadau graddedigion. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. Siaradwyr i’w cadarnhau. Os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch â l.rees@colegcymraeg.ac.uk
Adnoddau E-Ddysgu Consortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol dwyieithog e-ddysgu ar y pynciau isod: Manteision astudio Gofal Plant trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Adeiladwaith trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Busnes trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Manteision astudio Arlwyaeth trwy’r Gymraeg neu’n Ddwyieithog Ailsefyll Mathemateg TGAU Ailsefyll Cymraeg TGAU Peirianneg Lefel 3 Cerddoriaeth Lefel A Ffrangeg Lefel A TGCh Lefel AS
Sesiynau Adolygu Carlam Cymru
Recordiadau o sesiynau adolygu mewn gwahanol feysydd a gomisiynwyd gan e-sgol ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ystod 2021. Ceir sesiynau adolygu TGAU ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Cymraeg Ail Iaith Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu UG ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu safon uwch ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Seicoleg
Philip Jonathan, ‘Cynrychioliad amharamedrig ar gyfer cyd-newidynnau amlddimensiynol mewn model gwerthoedd eit...
Cyflwynir methodoleg ystadegol er mwyn modelu gwerthoedd eithaf amgylcheddol prosesau anunfan. Seilir y fethodoleg ar fodel Pareto cyffredinoledig ar gyfer brigau dros drothwy o'r broses amgylcheddol, â chynrychioliad Voronoi ar gyfer amrywiad paramedrau'r model gwerthoedd eithaf gyda chyd-newidynnau amlddimensiynol. Defnyddir rhesymu Bayesaidd MCMC naid wrthdroadwy, yn ymgorffori samplu Metropolis-Hastings mewn Gibbs, i amcangyfrif cyd-ol-ddosraniad holl baramedrau'r cynrychioliad Voronoi. Cymhwysir y fethodoleg i ganfod nodweddion gerwinder stormydd morol eithafol gyda chyfeiriad a thymor. Dilysir bod efelychiadau yn ôl y model a amcangyfrifwyd yn cyfateb yn dda i'r data gwreiddiol. Ymhellach, defnyddir y model i amcangyfrif uchafwerthoedd brigau dros drothwy sy'n cyfateb i gyfnodau dychwelyd llawer hwy na chyfnod y data gwreiddiol.
Mathemateg mewn Chwaraeon
Dyma wefan sy’n rhoi blas ar sut mae mathemateg yn berthnasol mewn chwaraeon, boed hynny i wella ein dealltwriaeth o ryw sefyllfa benodol, gwella dyluniad offer, neu optimeiddio strategaeth fel yr un a wyneba tîm mewn ras F1. Mae’r adnodd dysgu yma’n cynnwys adolygiad o ddilyniannau a chyfresi rhifyddol a geometrig, ac yn defnyddio’r rhain yng nghyd-destun dewis strategaeth “pitio” mewn ras F1. Mae’r adnodd yn cynnwys gêm ryngweithiol lle gall hyd at dri dysgwr gystadlu yn erbyn ei gilydd trwy gymharu strategaethau gwahanol, a gwirio eu datrysiadau i’r ymarferion. Crëwyd y wefan gan Dr Tudur Davies a Mr Jakub Sowa o Brifysgol Aberystwyth. Cefnogwyd y prosiect gan grant bach gan Gymdeithas Fathemategol Llundain.
Hwb Sgiliau Hanfodol (Yr Urdd)
BETH YW'R HWB? Mae’r Hwb yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol. Mae modd i unigolion weithio tuag at gymwysterau Sgiliau Hanfodol Mynediad 2 i Lefel 3, neu weithio i wella sgiliau wrth ymgymryd â rhaglen dysgu arall. Mae’r Hwb yn agored i ddarparwyr hyfforddiant i fedru cyfeirio dysgwyr sydd am ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg. BETH MAE'R RHAGLEN DYSGU YN CYNNWYS? Asesiadau Cychwynnol Cynllun dysgu unigol Mynediad at weithdai rhithiol Sesiynau 1:1 Mynediad at adnoddau, recordiadau o sesiynau ac e-portffolio Tasgau gwaith annibynnol sy’n cael eu hasesu a fydd adborth yn cael eu darparu Tasg o dan reolaeth a thasg gadarnhaol (gan gynnwys tasgau ymarfer) Tystysgrifau
Mathemateg Pob Dydd 2
Mae bod â sgiliau da mewn mathemateg yn bwysig mewn bywyd beunyddiol. Yn wir, mae’n bosibl nad ydych wedi sylwi pa mor aml rydych yn defnyddio mathemateg o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg, ac mae wedi’i gynllunio i’ch ysbrydoli i wella eich sgiliau mathemateg presennol ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd y gallech fod wedi’u hanghofio. Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a’r gweithgareddau rhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu, ymhlith pethau eraill, i gyfrifo faint o baent y bydd ei angen arnoch ar gyfer addurno, a throsi arian, neu symud ymlaen yn eich gyrfa neu addysg bellach. I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angen i chi ddefnyddio cyfrifiannell, papur a phen, a phrotractor. Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn. Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a gyda chymorth caredig Dangoor Education, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation. Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Joanne Davies, West Herts College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a Middlesborough College. Trwydded OGL (Llywodraeth Agored: Mae'r Brifysgol Agored yn falch o ryddhau'r cwrs rhad ac am ddim hwn o dan drwydded Llywodraeth Agored.) sydd wedi ei nodi ar gyfer yr adnodd yma.
Mathemateg Pob dydd 1
Mae'r cwrs hwn ar gael am ddim ar blatfform OpenLearn y Brifysgol Agored. Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor aml mae angen sgiliau mathemateg arnoch yn eich bywyd bob dydd? Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydoli chi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aeth yn angof. Bydd gweithio trwy’r enghreifftiau a gweithgareddau rhyngweithiol y cwrs hwn yn eich helpu chi i redeg cartref neu symud ymlaen yn eich gyrfa, ymysg pethau eraill. Er mwyn cwblhau’r cwrs, bydd arnoch angen cyfrifiannell, llyfr nodiadau ac ysgrifbin. Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn. Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a gyda chymorth caredig Dangoor Education , cangen addysgol The Exilarch’s Foundation. Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Anna E. Crossland, Middlesborough College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a West Herts College.
Adolygu Mathemateg
Mae mathemateg.com a ddatblygwyd gan Dr Gareth Evans yn cynnwys llond trol o adnoddau ar gyfer astudio mathemateg o flwyddyn 7 i flwyddyn 13. Defnyddiwch y ddewislen ar dop y dudalen i lywio'r safle. Cliciwch "Mewngofnodi fel ymwelydd" i gael mynediad i unrhyw gwrs. Ar y safle cewch lawrlwytho pecynnau gwaith, wylio fideos adolygu, ceisio cwisiau adolygu neu geisio hen bapurau arholiad.
Mathemateg â Swigod
Mae’r wefan yma’n cynnwys cyflwyniad ar sut y gellir defnyddio swigod er mwyn datrys problem fathemategol mewn optimeiddiaeth, a adnabyddir fel Problem Steiner. Yn y broblem hon, y nod yw ceisio darganfod y ffordd byrraf o gysylltu n pwynt (all ddynodi dinasoedd neu drefi er enghraifft) ar y plân gyda’i gilydd. Er mwyn datrys y broblem yma, byddwn yn gwneud cysylltiadau â’r broblem o ddarganfod arwynebau minimol (e.e. gan ddefnyddio swigod). Mae’r wefan yn cynnwys dau set o ymarferion, y naill wedi’i anelu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 10-11 a’r llall yn addas ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 12-13. Mae’r set cyntaf o ymarferion yn cynnwys cyfrifiadau geometreg (ac yn bennaf trigonometreg), tra bod yr ail set hefyd yn cynnwys problemau sy’n ymwneud â darganfod terfannau a differu.