Ychwanegwyd: 22/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.1K

Mathemateg â Swigod

Disgrifiad

Mae’r wefan yma’n cynnwys cyflwyniad ar sut y gellir defnyddio swigod er mwyn datrys problem fathemategol mewn optimeiddiaeth, a adnabyddir fel Problem Steiner. Yn y broblem hon, y nod yw ceisio darganfod y ffordd byrraf o gysylltu n pwynt (all ddynodi dinasoedd neu drefi er enghraifft) ar y plân gyda’i gilydd. Er mwyn datrys y broblem yma, byddwn yn gwneud cysylltiadau â’r broblem o ddarganfod arwynebau minimol (e.e. gan ddefnyddio swigod). Mae’r wefan yn cynnwys dau set o ymarferion, y naill wedi’i anelu at ddysgwyr ym mlynyddoedd 10-11 a’r llall yn addas ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 12-13. Mae’r set cyntaf o ymarferion yn cynnwys cyfrifiadau geometreg (ac yn bennaf trigonometreg), tra bod yr ail set hefyd yn cynnwys problemau sy’n ymwneud â darganfod terfannau a differu.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Mathemateg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gwefan
mân-lun mathemateg a swigod

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.