Ychwanegwyd: 10/02/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 1.8K Cymraeg Yn Unig

Gweithdai Mathemateg 2023

Disgrifiad

Awydd astudio Mathemateg yn y brifysgol? Eisiau cael blas ar fywyd myfyriwr Mathemateg a darganfod at ba yrfa y gallai gradd Mathemateg arwain? Dyma’ch cyfle i gael ragor o wybodaeth, cael blas ar fodiwlau a holi’ch cwestiynau i ddarlithwyr a chyn-fyfyrwyr!

Fel rhan o’r gyfres bydd tri gweithdy byw ar-lein. Bydd y ddau gyntaf yn cael eu harwain gan ddarlithwyr Mathemateg o brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac fe’u cefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod y gweithdai hyn, bydd cyfle i chi gael blas ar fodiwl prifysgol; cyfarfod a dod i adnabod darlithwyr cyfrwng Cymraeg; gael rhagflas o'r hyn y mae'r brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr sy'n astudio Mathemateg yn Gymraeg  (e.e. dewis o fodiwlau, y math o gyrsiau sydd ar gael – anrhydedd sengl, cyfun); holi unrhyw gwestiynau.

Cyflogadwyedd fydd ffocws y gweithdai olaf. O gyfrifydd i beiriannydd meddalwedd i feteorolegydd, mae gradd mewn Mathemateg yn agor llu o ddrysau. Bydd graddedigion Mathemateg sydd bellach yn y byd gwaith yn rhannu eu profiadau o fuddion gradd mewn Mathemateg, sut mae’r radd wedi eu helpu yn eu gyrfa ac yn rhoi rhagflas o’i gwaith.

Y GWEITHDAI:


Nos Iau 9 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Aberystwyth
Dr Tudur Davies a Dr Gwion Evans fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Geometreg arwynebau minimol’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. 


Nos Iau 16 Mawrth 2023, 7pm – Prifysgol Caerdydd
Dr Dafydd Evans, Dr Mathew Pugh a Dr Geraint Palmer fydd yn arwain y gweithdy hwn, a ‘Hapgerddediadau’ fydd thema’r modiwl y byddwch yn cael blas arno. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau.  

Dydd Llun 19 Mehefin 2023, 9:30yb, Cyflogadwyedd
Dewch i glywed am yr ystod eang o yrfaoedd sydd modd i chi eu hystyried ar ôl astudio gradd Mathemateg a chlywed profiadau graddedigion. Bydd cyfle i chi holi eich cwestiynau. 
Siaradwyr i’w cadarnhau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch â l.rees@colegcymraeg.ac.uk 
 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Mathemateg, Gyrfaoedd
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Cynhadledd
mân lun gweithdai maths

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.