Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglÅ·n â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglÅ·n â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Mae’r adnoddau hyn yn edrych ar iechyd a lles mewn chwaraeon. Ymhlith y deunyddiau ceir unedau ar fuddion gweithgarwch corfforol, gwydnwch, penderfynyddion iechyd, datblygiad corfforol cyfannol neu holistig, ymlyniad, gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc, rheoli straen, a pholisïau addysg ym maes iechyd a lles.
Mae pob uned yn cynnwys:
Cyfranwyr y thema hon yw:
Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn.
Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Bwriad yr ymchwil hwn oedd ceisio dod i ddeall natur y perygl sy’n gysylltiedig ag arferion gamblo myfyrwyr sy’n cystadlu mewn chwaraeon. Mae’r myfyrwyr hyn, fel pawb arall, yn agored i’r peryglon amlwg sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd yn gorfod dilyn rheolau uniondeb gamblo (gambling integrity rules) sy’n cyfyngu ar eu hymddygiad gamblo. Drwy ddefnyddio grwpiau ffocws gyda myfyrwyr chwaraeon – aelodau o dimau rygbi a phêl-droed (bechgyn a merched) – darganfuwyd bod gamblo yn arfer cyffredin. Yn bwysicach na hynny, darganfuwyd bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynglÅ·n â natur a symptomau dibyniaeth a’r broses o golli rheolaeth. Yn ogystal, gwelwyd nad oedd myfyrwyr yn cymryd y rheolau gamblo o ddifri a bod rhai yn torri’r rheolau.
Gwefan sy'n cynnwys fideos a chyfarwyddiadau ysgrifenedig ar sut i gynnal asesiadau ffitrwydd sy'n gysylltiedig ag iechyd, yn unol â Chanllawiau ACSM. Bydd yr adnodd yn ddefnyddiol hyd at lefel 4 yn gyffredinol.
Nod yr adnodd hwn yw darparu cyngor ac arweiniad ar gynnal sgrinio iechyd cychwynnol ac asesiadau ffitrwydd, yn unol â phrotocolau ACSM.
Mae fideo sy'n egluro ac yn dangos y protocol yn ogystal â dogfen ategol yn dangos y protocol mewn fformat ysgrifenedig ar gyfer bob un o'r agweddau canlynol:
Mae dolen i'r wefan isod:
Recordiad o bum gweithdy a gynhaliwyd yn fyw ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 a dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach sy'n astudio Mathemateg Safon Uwch/UG. Trefnwyd y gweithdai gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe'u harweiniwyd gan ddarlithwyr mathemateg o brifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Chaerdydd. Eu bwriad yw cyfoethogi maes llafur Mathemateg Safon Uwch/UG a rhoi cyfle i chi ddod i nabod y darlithwyr. Cynhaliwyd y gweithdai rhwng Chwefror a Mawrth 2021.
Mae’r adnodd hwn yn gasgliad o ddeunyddiau dysgu rhyngddisgyblaethol ar gyfer pynciau Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae’n cynnwys adnoddau ar ffurf cyflwyniadau pwerbwynt ar gyfer darlithoedd, tasgau ac aseiniadau, cyfieithiadau o destunau, sylwebaeth arbenigol ar faterion llosg yn ymwneud â chwaraeon, ynghyd â dwy sesiwn ymgynghorol wedi eu recordio ar DVD.
Mewn adroddiad yn 2013, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod codi statws Addysg Gorfforol (AG) i fod yn bwnc craidd, fel Cymraeg a Mathemateg, yn hanfodol er mwyn ceisio atal yr epidemig gordewdra presennol. Serch hynny, mae'n rhaid cael gwersi AG o ansawdd uchel er mwyn cael effaith gorfforol gadarnhaol ar ddisgyblion. Mae gan athrawon AG rôl hanfodol wrth weithredu AG o ansawdd uchel, ac felly bydd deall eu canfyddiadau ynghylch AG o ansawdd uchel yn bwysig. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda deg o athrawon AG ysgolion cyfrwng Cymraeg de Cymru (saith dyn a thair menyw). Daeth i'r amlwg fod tebygrwydd rhwng theori cyfredol yn y maes a chanfyddiadau'r athrawon, er enghraifft pwysigrwydd creu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yna wahaniaethau rhwng y theori a'r ymarfer, er enghraifft dryswch gyda'r term llythrennedd corfforol. Goblygiad yr astudiaeth yw fod angen ymgynghori gydag athrawon AG i lunio polisïau AG o ansawdd uchel. Yn y dyfodol dylid cynnal ymchwil gweithredol i hybu'r term llythrennedd corfforol. Lowri Edwards, Anna Bryant ac Anwen Mair Jones, 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 44-60.
Rhaglen bwerus am y cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Malcolm Allen o Ddeiniolen, wrth iddo siarad yn agored am y tro cyntaf am dreialon ei fywyd a'i yrfa liwgar. Mae Malcolm a'r teulu yn siarad yn ffraeth ac yn onest am y cyfnod tywyll hwnnw lle bu bron iddo golli popeth. Ar ôl brwydr hir, mae Malcolm wedi dod drwyddi ac wedi cychwyn ar bennod newydd yn ei fywyd. Ymysg y cyfranwyr mae Graham Taylor, Mick McCarthy, Kevin Keegan a Syr David Brailsford. Rondo, 2014.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Darlith gan Dr Carwyn Jones yn amlinellu canlyniadau ymchwil ansoddol i mewn i brofiad cyn bêl-droediwr proffesiynol a oedd yn dioddef o alcoholiaeth. Mae'n olrhain ei hanes o'i blentyndod drwy yrfa fer broffesiynol, ei gwymp i mewn i ddibyniaeth a'i adferiad. Gall myfyrwyr is-raddedig ddefnyddio'r adnodd er mwyn cael: Gwybodaeth ddamcaniaethol am ddibyniaeth Esiampl o ymchwil dadansoddol astudiaeth achos Gwybodaeth am effeithiau dibyniaeth
Cyfres o ddeg gweithdy ar seicoleg chwaraeon ar gyfer hyfforddwyr. Cafodd y gweithdai eu creu gan Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor fel rhan o brosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn yr erthygl hon rydym yn herio'r syniad fod cenedlaetholdeb yn gyffredinol, a chenedlaetholdeb ar y maes chwarae yn arbennig, yn anfoesol. Er bod cenedlaetholdeb yn gallu cael ei lygru ar y maes chwarae ac mewn cyd-destunau eraill, nid yw hynny o reidrwydd yn anochel. Trwy drafod athroniaeth cenedlaetholdeb rhyddfrydol, fe fyddwn yn ceisio dangos bod derbyn ymlyniad diwylliannol a chenedlaethol yn hanfodol er mwyn hybu cymuned ryng-genedlaethol. Ymhellach, byddwn yn dadlau bod gan chwaraeon cenedlaethol botensial hynod arwyddocaol i greu fforwm a deialog lle y gall gwahanol ddinasyddion rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd. Hywel Iorwerth a Carwyn Jones, 'Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 65-81.
Bydd dyn wedi croesi'r hanner-cant yn gweld yn lled glir y bobol a'r cynefin a foldiodd 'i fywyd e...' Drama-ddogfen gan T. James Jones a Dylan Richards gydag Aneirin Hughes fel Carwyn James yn ei ddyddiau olaf, unig yn Amsterdam, gan wynebu marwolaeth gynnar ac yn edrych yn ôl dros fywyd o fuddugoliaethau a siom. Roedd ei lwyddiant ym myd 'macho' rygbi - gan drechu'r Crysau Duon gyda'r Llewod a Llanelli - yn dod â phris uchel o ddolur y meddwl a'r corff. Bydd chwaraewyr megis Barry John a John Dawes, cyfeillion a chyd-weithwyr agos, a'i frawd Dewi yn cyfrannu at ddarlun cyflawn o un o gewri'r gêm, gwladgarwr diwylliedig ac enaid mawr, bregus yn ddiodde i'r eithaf. Green Bay Media, 2009.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.