Ychwanegwyd: 21/03/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.6K Cymraeg Yn Unig

Gwyddorau Chwaraeon: Iechyd a Lles

Disgrifiad

Mae’r adnoddau hyn yn edrych ar iechyd a lles mewn chwaraeon. Ymhlith y deunyddiau ceir unedau ar fuddion gweithgarwch corfforol, gwydnwch, penderfynyddion iechyd, datblygiad corfforol cyfannol neu holistig, ymlyniad, gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc, rheoli straen, a pholisïau addysg ym maes iechyd a lles.

Mae pob uned yn cynnwys:

  • crynodeb 
  • darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo
  • cwestiynau seminar 
  • llyfryddiaeth

Cyfranwyr y thema hon yw:

  • Dylan Blain
  • Dr Lowri Cerys Edwards
  • Seren Evans
  • Dr Anwen Jones
  • Dr Carwyn Jones
  • Dr Julian Owen
  • Dione Rose
  • Catrin Rowlands

Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn

Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd a Gofal
Trwydded
CC BY-NC-SA
Adnodd Coleg Cymraeg Cwrs/Uned
mân lun gwyddorau chwaraeon

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.