Trafoda’r erthygl gwestiynau a gododd yn sgil llunio Gwlad yr Asyn, sef drama lwyfan ar ffurf monolog. Cafodd y ddrama ei hysgrifennu fel ymateb gwrthimperialaidd Cymreig i destun canonaidd Shakespeare, The Tempest. Yn gyntaf, ystyria’r erthygl y diffyg traddodiad a geir yng Nghymru o ysgrifennu dramâu gwrthddisgwrs Shakespearaidd o safbwynt Cymreig, cyn canolbwyntio ar y cwestiwn, ‘beth a ddylai nodweddu’r ddrama ôl- drefedigaethol Gymreig?’. Dadleua y dylai gyfleu ‘golwg deublyg’, hynny yw, cydnabod bod gan Gymru etifeddiaeth o ddwy ochr y rhaniad imperialaidd: gwlad a gafodd ei gwladychu ond sydd hefyd wedi gwladychu.
Wyn Mason, 'Gwlad yr Asyn a’r golwg deublyg: diffinio’r ddrama ôl-drefedigaethol Gymreig'
Llwybr Defaid (1993)
Mae Morris wedi treulio deng mlynedd yn y carchar ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio'i wraig. Ond daw tystiolaeth newydd ynglÅ·n â'r farwolaeth i'r golwg yn llythyr Ceri, chwaer ei wraig. Beth yn union a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw? Ffilmiau Bryngwyn, 1993.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ac Eto Nid Myfi (1987)
Drama lwyfan wedi'i haddasu ar gyfer y teledu gan John Gwilym Jones, awdur y ddrama wreiddiol. Llion Williams sy'n chwarae'r brif rhan. Ffilmiau Bryngwyn, 1987.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.