Sioned Dafydd, cyflwynydd Sgorio - Mae'r sgwrs yma gyda'r gyflwynwraig chwaraeon, Sioned Dafydd, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes cyfathrebu chwaraeon. Mae Sioned yn cyflwyno rhaglenni ac eitemau ar raglenni 'Sgorio' ar S4C ac ar Sky Sport. Mae hi'n siarad gyda Dr Non Vaughan Williams, uwch-ddarlithydd mewn Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe, ar sut mae’r Gymraeg (yn ogystal â astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol) wedi agor drysau iddi yn y diwydiant, ei phrofiadau o fod yn gyflwynydd benywaidd yn y maes, gan gynnwys yr uchafbwyntiau a’r heriau o’r swydd.
Trafodaeth Chwaraeon a’r Cyfryngau - Gabriella Jukes, cyflwynydd ar Sky Sport, y nofwraig ryngwladol Medi Roberts, a Cathy Williams, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Tîm Cymru Gemau'r Gymanwlad 2026. Mae’r panel yn trafod yr heriau o baratoi a chyflwyno ar y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol, a hefyd o fod ar ochr arall y drafodaeth wrth ddelio gyda’r wasg a’r cyfryngau fel athletwraig, cynhyrchydd cynnwys ac fel pennaeth cyfathrebu. Maent mewn trafodaeth ag Andrew Weeks, darlithydd yn adran Newyddiaduraeth, Cyfryngau, a Diwylliant (JOMEC), Prifysgol Caerdydd.