Adnodd fideo newydd sy’n rhoi gwedd gyfoes ar gywydd enwog Dafydd ap Gwilym er mwyn cynorthwyo gydag astudiaethau Safon Uwch Cymraeg Uned 5 (Rhyddiaith yr Oesoedd Canol, Yr Hengerdd a’r Cywyddau). Canolbwyntir ar 4 rhan o’r testun er mwyn adrodd y stori, gan fanylu ar y cynnwys mewn iaith gyfoes a rhoi sylw penodol i nodweddion arddull a chrefft y bardd. Sgript wedi ei baratoi gan Dr Eurig Salisbury, darlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth. Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube. Ariannir gan Lywodraeth Cymru.
Trafferth mewn Tafarn 2024
Llyfr Glas Nebo mewn 3 munud
Adnodd fideo newydd sy’n cyflwyno ac yn crynhoi prif gynnwys, themâu a chymeriadau’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros ar gyfer astudiaeth Uned 2 TGAU CBAC Llenyddiaeth Gymraeg. Pwrpas yr adnodd yw cyflwyno’r nofel mewn ffordd fachog a syml, gan sbarduno’r dysgwyr i fynd ati i astudio ymhellach. Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube. Ariannir gan Lywodraeth Cymru.
Panel Trafod: Hedd Wyn
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y ffilm arobryn, Hedd Wyn, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd ac a gyfarwyddwyd gan Paul Turner. Yn ystod y sesiwn, geir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ffilm gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, y themâu yr ymdrinnir â hwy, y portread o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn ogystal â’r defnydd o symbolaethau o fewn y ffilm. Ystyrir hefyd bwysigrwydd a chyfraniad y ffilm o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams a'r Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor, yr actor Huw Garmon a Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth yr Ysgwrn. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ffilm ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hanes. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Hedd Wyn? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Cyfres Beirdd yr Uchelwyr
Mae Cyfres Beirdd yr Uchelwyr yn cyflwyno golygiadau safonol o farddoniaeth y beirdd a ganai yng Nghymru rhwng 1282 a chanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r Gyfres wedi ei hanelu at unrhyw un sydd am ddysgu mwy am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol – myfyrwyr ac ymchwilwyr Prifysgol, a hefyd unrhyw un sydd am ddysgu mwy am hanes ein traddodiad barddol, neu am hanes ryw ardal benodol ers talwm. Os am ddysgu mwy am un bardd yn benodol, gellid dechrau drwy ddarllen y Rhagymadrodd i’w waith, cyn troi at y cerddi eu hunain. Mae digon o gymorth mewn aralleiriadau a nodiadau i helpu gyda’r dehongli. Cyflwynir y cerddi yn orgraff heddiw a cheir nodiadau manwl ar bob cerdd sy'n esbonio unrhyw anawsterau yn y testun a hefyd y cyfeiriadau at bobl, lleoedd a chymeriadau hanesyddol a chwedlonol. O flaen gwaith pob bardd, ceir rhagymadrodd yn trafod bywyd y bardd, ei ddyddiadau, ei noddwyr a natur ei farddoniaeth. Ar ddiwedd pob cyfrol ceir mynegeion a rhestrau llawn o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd yn sail i’r golygiad. Mae'r gwaith yn ffrwyth prosiect ymchwil a gynhaliwyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth gan dîm o ymchwilwyr dan nawdd Prifysgol Cymru, yr AHRC ac eraill.
Stori Fer: Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel? (Adnoddau)
Adnoddau adolygu'r stori fer 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' gan Mihangel Morgan (o'r gyfrol Saith Pechod Marwol), sef un o'r straeon byrion ar fanyleb Cymraeg Ail Iaith UG/Safon Uwch (U2 Uned 6: Defnyddio Iaith a'r Stori Fer). Adnoddau yn cynnwys: Animeiddiad fideo o'r stori (gyda a heb isdeitlau) Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn trafod y stori 'Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel?' Darlith Fideo a chyflwyniad PowerPoint gan Yr Athro Tudur Hallam yn sôn am eirfa ac ymadroddion defnyddiol i'w defnyddio wrth drafod y stori fer Adnoddau wedi eu creu gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Panel Trafod: Dod â Siwan yn Fyw
Cyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr ac wynebau cyfarwydd ym myd y ddrama Gymraeg yn trafod y ddrama Siwan gan Saunders Lewis. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor, Dr Llio Mai, a'r actorion Ffion Dafis a Dyfan Roberts. Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ddrama gan gynnwys ei hiaith, ei themâu, ei strwythur a’i chymeriadau gan hefyd ystyried ei chyfraniad o fewn cyd-destun y ddrama Gymraeg. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ddrama ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn drama. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Siwan? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Ar-lên 2021-22: Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch (Rhagfyr 2021 - Mawrth 2022)
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 1 Rhagfyr 2021. 2021 1 Rhagfyr 2021: Dafydd ap Gwilym, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) 8 Rhagfyr 2021: Gwerthfawrogi Rhyddiaith, Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor (Bl.13 + Bl.12) 2022 2 Chwefror 2022: Ymarfer Papur Gramadeg, Dr Alec Lovell, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 9 Chwefror 2022: Hedd Wyn (Ffilm), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 16 Chwefror 2022: Branwen, Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor (Bl.13) 2 Mawrth 2022: Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 9 Mawrth 2022: Sul y Mamau yn Greenham (Menna Elfyn), Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd (Bl.12) 16 Mawrth 2022: Y Genhedlaeth Goll (Alan Llwyd), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Jerry Hunter, 'Perthnasedd Poen ac Undonedd: Kate Roberts a Ffuglen y 1930au' (2021)
Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiad ffuglen Gymraeg yn y 1930au, a hynny trwy archwilio gwahanol syniadau ynglŷn â natur realaeth. Mae craffu ar ohebiaeth Saunders Lewis a Kate Roberts yn fodd i ddadansoddi’r modd y syniai’r ddau lenor am hanfodion estheteg realaidd. Trafodir ymateb Saunders Lewis i ddrafft cyntaf y nofel Traed mewn Cyffion ac awgrym Kate Roberts wrth amddiffyn hanfod y gwaith fod ‘poen ac undonedd’ yn berthnasol yn y 1930au ac yn themâu llenyddol dilys. Awgrymir bod apêl Kate at waith y nofelydd Gwyddelig, Peadar O’Donnell, yn bwysig er mwyn deall ei hestheteg hi. Edrychir wedyn ar y berthynas rhwng Traed mewn Cyffion ac un o nofelau O’Donnell, Islanders.
Recordiadau Ar-lên (Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch) Mawrth - Mai 2021
Trefnwyd y gweminarau adolygu hyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg UG/Safon Uwch. Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. PWYSIG: Mae sesiynau newydd Ar-lên 2021-22 yn cael eu cynnal rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 16 Mawrth 2022. Cliciwch yma i weld yr amserlen ac i gofrestru.
Beirdd Cymru: Y Stori (2013)
O Drefaldwyn i Fwdapest, mae'r bardd Twm Morys yn olrhain hanes cerdd y mae pob plentyn Hwngaraidd yn medru ei hadrodd ar gof; cerdd sy'n symbolaeth gref o ryddid i drigolion Hwngari - ond cerdd sydd â chysylltiad Cymreig. Twm Morys ei hun sydd wedi trosi'r gerdd i'r Gymraeg ac mae Karl Jenkins wedi gosod y gerdd i gerddoriaeth. Rondo, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Chwilio am Mary Vaughan Jones (2013)
Mary Vaughan Jones oedd un o awduron llenyddiaeth plant mwyaf llwyddiannus yr iaith Gymraeg. Creodd gymeriadau cofiadwy wnaeth symbylu cenhedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen. Yr enwocaf ohonynt wrth gwrs oedd Sali Mali. Bu farw Mary Vaughan Jones ym 1983 ac o ganlyniad ni fu iddi weld y llwyddiant rhyngwladol a ddaeth i ran Sali Mali drwy gyfrwng rhaglenni teledu ar S4C. Mae pawb yn adnabod ei chymeriadau, ond pwy oedd Mary Vaughan Jones? Lumedia, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio T. Llew (2009)
Rhaglen deyrnged i'r awdur a'r bardd toreithiog a fu farw'n ddiweddar, gan gynnwys cyfweliad arbennig gyda T. Llew Jones o 2002. Myrddin ap Dafydd gafodd y fraint o'i holi mewn cyfweliad estynedig a oedd yn ymdrin a nifer o agweddau o'i fywyd a'i waith, ac mi fydd hefyd yn un o'r rhai a fydd yn dadansoddi cyfraniad T. Llew Jones i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr addasiadau ffilm a theledu o'i waith a'i ddylanwad ar blant Cymru heddiw. Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.