Ychwanegwyd: 24/11/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 2.1K Cymraeg Yn Unig

Ar-lên 2021-22: Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch (Rhagfyr 2021 - Mawrth 2022)

Disgrifiad

Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. 

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 1 Rhagfyr 2021.

 

2021

  • 1 Rhagfyr 2021: Dafydd ap Gwilym, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.13)
  • 8 Rhagfyr 2021: Gwerthfawrogi Rhyddiaith, Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor (Bl.13 + Bl.12)

2022

  • 2 Chwefror 2022: Ymarfer Papur Gramadeg, Dr Alec Lovell, Prifysgol Abertawe (Bl.12)
  • 9 Chwefror 2022: Hedd Wyn (Ffilm), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12)
  • 16 Chwefror 2022: Branwen, Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor (Bl.13)
  • 2 Mawrth 2022: Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13)
  • 9 Mawrth 2022: Sul y Mamau yn Greenham (Menna Elfyn), Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd (Bl.12)
  • 16 Mawrth 2022: Y Genhedlaeth Goll (Alan Llwyd), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth

 

Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn.

Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc.

I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Mân Lun Ar-lên 21-22

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.