Ychwanegwyd: 22/10/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 745 Cymraeg Yn Unig

Philip Jonathan, ‘Cynrychioliad amharamedrig ar gyfer cyd-newidynnau amlddimensiynol mewn model gwerthoedd eithaf, â chymhwysiad eigionegol’

Disgrifiad

Cyflwynir methodoleg ystadegol er mwyn modelu gwerthoedd eithaf amgylcheddol prosesau anunfan. Seilir y fethodoleg ar fodel Pareto cyffredinoledig ar gyfer brigau dros drothwy o'r broses amgylcheddol, â chynrychioliad Voronoi ar gyfer amrywiad paramedrau'r model gwerthoedd eithaf gyda chyd-newidynnau amlddimensiynol. Defnyddir rhesymu Bayesaidd MCMC naid wrthdroadwy, yn ymgorffori samplu Metropolis-Hastings mewn Gibbs, i amcangyfrif cyd-ol-ddosraniad holl baramedrau'r cynrychioliad Voronoi. Cymhwysir y fethodoleg i ganfod nodweddion gerwinder stormydd morol eithafol gyda chyfeiriad a thymor. Dilysir bod efelychiadau yn ôl y model a amcangyfrifwyd yn cyfateb yn dda i'r data gwreiddiol. Ymhellach, defnyddir y model i amcangyfrif uchafwerthoedd brigau dros drothwy sy'n cyfateb i gyfnodau dychwelyd llawer hwy na chyfnod y data gwreiddiol.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Mathemateg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun Gwerddon 33

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.