Ychwanegwyd: 07/09/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 861 Cymraeg Yn Unig

Mathemateg mewn Chwaraeon

Disgrifiad

Dyma wefan sy’n rhoi blas ar sut mae mathemateg yn berthnasol mewn chwaraeon, boed hynny i wella ein dealltwriaeth o ryw sefyllfa benodol, gwella dyluniad offer, neu optimeiddio strategaeth fel yr un a wyneba tîm mewn ras F1. Mae’r adnodd dysgu yma’n cynnwys adolygiad o ddilyniannau a chyfresi rhifyddol a geometrig, ac yn defnyddio’r rhain yng nghyd-destun dewis strategaeth “pitio” mewn ras F1. Mae’r adnodd yn cynnwys gêm ryngweithiol lle gall hyd at dri dysgwr gystadlu yn erbyn ei gilydd trwy gymharu strategaethau gwahanol, a gwirio eu datrysiadau i’r ymarferion. Crëwyd y wefan gan Dr Tudur Davies a Mr Jakub Sowa o Brifysgol Aberystwyth. Cefnogwyd y prosiect gan grant bach gan Gymdeithas Fathemategol Llundain.  

 

 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
UG/Safon Uwch
Perthyn i
Mathemateg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gwefan
mân-lun Mathemateg mewn Chwaraeon

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.