Teclyn yw hwn sy'n cynnwys gwybodaeth am adnoddau, rhaglenni ac apïau ymarferol y gall staff eu defnyddio i wella'u Cymraeg a defnyddio i wella Cymraeg eu dysgwyr. Mae'r wefan yn hollol ddwyieithog ac yn addas i bawb, beth bynnag eich sgiliau iaith Gymraeg.
Teclyn Iaith
Pecyn Adnoddau Amaethyddiaeth
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys yr unedau isod:
- Iechyd a Diogelwch mewn Amaethyddiaeth
- Ffisioleg Anifeiliaid
- Cynhyrchu Cnydau
- Systemau Sylweddol a Chydrannau Allweddol y Tractor
Crëwyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar sail Deunyddiau Dysgu Amaeth, adnodd a grëwyd yn wreiddiol gan Sgiliaith (2002). Awduron yr adnodd gwreiddiol oedd Lowri Evans, Ian Harries, Mary Richards a Rhys Williams, ac fe’i golygwyd gan Penri James.
Hwb Sgiliau Hanfodol (Yr Urdd)
BETH YW'R HWB?
Mae’r Hwb yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol. Mae modd i unigolion weithio tuag at gymwysterau Sgiliau Hanfodol Mynediad 2 i Lefel 3, neu weithio i wella sgiliau wrth ymgymryd â rhaglen dysgu arall.
Mae’r Hwb yn agored i ddarparwyr hyfforddiant i fedru cyfeirio dysgwyr sydd am ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg.
BETH MAE'R RHAGLEN DYSGU YN CYNNWYS?
- Asesiadau Cychwynnol
- Cynllun dysgu unigol
- Mynediad at weithdai rhithiol
- Sesiynau 1:1
- Mynediad at adnoddau, recordiadau o sesiynau ac e-portffolio
- Tasgau gwaith annibynnol sy’n cael eu hasesu a fydd adborth yn cael eu darparu
- Tasg o dan reolaeth a thasg gadarnhaol (gan gynnwys tasgau ymarfer)
- Tystysgrifau