Teclyn yw hwn sy'n cynnwys gwybodaeth am adnoddau, rhaglenni ac apïau ymarferol y gall staff eu defnyddio i wella'u Cymraeg a defnyddio i wella Cymraeg eu dysgwyr. Mae'r wefan yn hollol ddwyieithog ac yn addas i bawb, beth bynnag eich sgiliau iaith Gymraeg.
Teclyn Iaith
Dwyieithrwydd ar gyfer y gweithle: Sgiliau proffesiynol
Pwrpas yr adnodd hwn yw helpu datblygu hyder i weithio'n ddwyieithog.
Twy gyfres o ymarferion bydd cyfle i ymarfer nifer o sgiliau perthnasol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys:
- drafftio e-bost
- paratoi CV
- gwneud cyflwyniad yn Gymraeg.
Cwrs Codi Hyder i Aseswyr
Diben y cwrs hunanastudio ar-lein hwn yw rhoi’r adnoddau a’r wybodaeth i aseswyr weithio yn ddwyieithog yn hyderus gyda’u dysgwyr.
Mae'r cwrs yn ystyried rhai o’r buddion a'r heriau o weithio'n ddwyieithog ac mae'n cyflwyno gwybodaeth, adnoddau a chymhelliant i allu datblygu darpariaeth a gweithio yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r cwrs yn ddwyieithog, ond mae wedi ei anelu at godi hyder aseswyr sy'n siarad Cymraeg wrth iddynt ddarparu eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dathlu a Datblygu Cymraeg Gwaith
Dyma gweminar ar gyfer dysgwyr a thiwtoriaid y cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch ac unrhyw un sydd â rôl gynllunio o safbwynt y Gymraeg yn eu sefydliad.
Fe’i cynhelir trwy Zoom trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.
O dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mae’r cynllun wedi bod yn uwchraddio sgiliau Cymraeg staff mewn prifysgolion a cholegau ledled Cymru ers pum mlynedd.
Ymunwch â'n gweminar i ddathlu llwyddiannau Cymraeg Gwaith yn y ddau sector ac i glywed gan y dysgwyr eu hunain. Bydd ail ran y gweminar yn gyfle i glywed am ddatblygiadau i’r dyfodol.
Dyddiad ac amser
Dydd Iau 16 Rhagfyr 10yb-11.30yb
10yb – Dathlu Cymraeg Gwaith
11yb – Datblygu Cymraeg Gwaith
Cyfranwyr
- Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Nia Brodrick - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach
- Owen Thomas - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch
- Panel y Dysgwyr: Cynrychiolwyr o golegau ac o brifysgolion Cymru
- Tiwtoriaid y cynllun
I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Addysgeg Dysgu ac Addysgu Dwyieithog yn y Cyfnod Normal Newydd
Dyma gyfres o adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol a ddatblygwyd i gefnogi tiwtoriaid i fewnosod y Gymraeg ac addysgu'n ddwyieithog mewn amgylchedd dysgu ar-lein. Mae dewis o chwe uned gwahanol, ac mae pob uned tua awr o hyd.
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gofal Plant yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith yn y cyfnod normal newydd
- Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Dysgu Oedolion yn y cyfnod normal newydd.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 3 Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol yw’r adnodd hwn.
Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr.
Mae’r casgliad yn cynnwys:
• canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd.
• dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd.
• posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plentyn: Craidd yw’r adnodd hwn.
Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr.
Mae’r casgliad yn cynnwys:
• canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd.
• dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd.
• posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
• adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yw’r adnodd hwn.
Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr.
Mae’r casgliad yn cynnwys:
• canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd.
• dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd.
• cyfres o dasgau sy’n cwrdd â gofynion rhai o feini prawf penodol y cwrs. Maent yn dangos sut mae modd cael pob dysgwr i gyflawni’r un dasg, wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar lefelau unigol a phriodol.
• posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
• adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith.
Sgiliaith: Posteri Dysgu Dwyieithog
Dyma gyfres o bosteri gan gwmni Sgiliaith ar gyfer tiwtoriaid mewn colegau ac aseswyr dysgu’n y gweithle. Maen nhw’n cynnig syniadau ar sut i ddechrau defnyddio a chyflwyno’r Gymraeg yn eich gwersi. Yn y gyfres mae posteri ar y canlynol:
- Taflen Cyfarchion
- Taflen Adborth
- Taflen Cwestiynau Syml
- Geirfa Dwyieithog i Diwtoriaid ac Aseswyr Dysgu’n y Gweithle
- Manteision Dwyieithrwydd
- Creu ethos dwyieithog yn y dosbarth
- Poster Adnoddau Defnyddiol
- Poster Dechrau Dwyieithogi Gwers
Canllawiau Creu Adnoddau Dysgu Digidol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r canllawiau yma'n cyflwyno pethau i'w hystyried wrth fynd ati i greu adnoddau dysgu digidol. Mae'r canllaw yn cyfierio at yr elfennau canlynol:
- Ymchwilio a chynllunio
- Awduro'r cynnwys
- Hygyrchedd a hawlfraint
- Llwyfannu adnodd ar y Porth Adnoddau
- Twlcit creu adnoddau (rhestr o feddalwedd)
- Rhestr wirio creu adnodd
- Rhestr wirio hygyrchedd
Yn ogystal, mae dolen i Ganllaw Dylunio Dwyieithog Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r canllaw hwn yn sôn am sut i gwflwyno'r ddwy iaith wrth ddylunio cynnwys.
Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith
Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant arloesol a chyngor ymarferol ar adnoddau ac arferion da i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.
Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.
Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.
Comisiynwyd rhaglen datblygu staff a rhaglen fentora cenedlaethol ar gyfer y sector ôl-16. Mae'r rhaglen yn cael ei ddarparu gan Sgiliaith ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Addysgu Ar-lein gyda MS Teams (Gweithdy gan Dyddgu Hywel)
Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr.
Amcanion y gweithdy
- Mabwysiadu sgiliau addysgu effeithiol ar-lein
- Cyflwyno yn effeithiol trwy Microsoft Teams
- Arwain gweithgareddau gwaith grwp yn ystod seminarau ar-lein
Cynnwys y gweithdy (cyfres o 3 cyflwyniad fideo isod)
- Cyflwyniad 1 - Cyfathrebu gyda myfyrwyr trwy Teams
- Cyflwyniad 2 - Addysgu ar-lein trwy Teams
- Cyflwyniad 3 - Grwpiau Trafod yn Teams
Ar ddiwedd y gweithdai hyn dylai hyfforddeion fod yn:
- gyfforddus wrth addysgu ar-lein
- hyderus wrth arwain gweithgareddau a thasgau ar-lein
- gyfforddus wrth ddefnyddio’r holl offer o fewn rhaglen Teams
Cefndir y Cyflwynydd
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.