Ychwanegwyd: 29/01/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.3K Dwyieithog

Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith

Disgrifiad

Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant arloesol a chyngor ymarferol ar adnoddau ac arferion da i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.

Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.

Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.

Comisiynwyd rhaglen datblygu staff a rhaglen fentora cenedlaethol ar gyfer y sector ôl-16.  Mae'r rhaglen yn cael ei ddarparu gan Sgiliaith ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Trawsddisgyblaethol
Adnodd Coleg Cymraeg Cwrs/Uned
man lun sgiliaith

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.