Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yw’r adnodd hwn.
Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr.
Mae’r casgliad yn cynnwys:
• canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd.
• dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd.
• cyfres o dasgau sy’n cwrdd â gofynion rhai o feini prawf penodol y cwrs. Maent yn dangos sut mae modd cael pob dysgwr i gyflawni’r un dasg, wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar lefelau unigol a phriodol.
• posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
• adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith.
Gellir agor y dogfennau unigol isod neu mae modd lawrlwytho'r dogfennau i gyd mewn un pecyn zip fan hyn.