Mae'r llenyddiaeth yn cynnwys sawl astudiaeth ar gyfnewid cod. Mae'r dull cymdeithasol-ddiwylliannol o astudio rhyngweithio yn y dosbarth fel y'i disgrifir gan Mercer (2000) yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddisgwrs dosbarthiadau iaith. Nododd Mercer nifer o dechnegau iaith a ddefnyddir gan athrawon. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi safbwyntiau athrawon dan hyfforddiant ar gyfnewid cod fel ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr astudiaeth, cynhaliwyd archwiliad o ymarfer dosbarth dwy athrawes dan hyfforddiant oedd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg. Arsylwyd y ddwy a chofnodwyd eu haddysgu. Hefyd cynhaliwyd cyfweliadau gyda'r athrawon dan hyfforddiant er mwyn eu holi am eu hagweddau at y defnydd o'r iaith gyntaf mewn dosbarth uwchradd lle mae'r Saesneg yn ail iaith. Dadansoddir y data a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau dadansoddi disgwrs beirniadol. Ystyrir yn benodol i ba raddau yr oedd yr athrawon dan hyfforddiant yn llwyddo i ddysgu mewn modd oedd o fewn cyrraedd y disgyblion dwyieithog o dan eu gofal. Roedd yr achlysuron pan oedd yr athrawon yn newid o'r Saesneg i'r Gymraeg am funud i weld yn cyfateb i'r swyddogaethau cyfnewid cod a nodwyd gan Camilleri. Mae'r cyfnewid cod yn awgrymu ffordd gyfreithlon o ddefnyddio adnoddau iaith cyffredin i sgaffaldio dysgu disgyblion. Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 158-95.
Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd d...
Llawlyfr Creadigedd yn yr ysgol gynradd
Datblygwyd y llawlyfr ar-lein yma gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’n cyflwyno a thrafod prif elfennau creadigrwydd yn yr ysgol gynradd ar gyfer ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae’r llawlyfr yn ymateb i ddatblygiadau polisi Llywodraeth Cynlluniad Cymru ac yn cynnig arweiniad ar sut i baratoi, creu, cynllunio, datblygu, trefnu ac asesu gweithgareddau dysgu ‘creadigedd’ o ansawdd uchel.
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg Gymraeg yn y De-ddwyrain gan Dylan Foster Evans. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Mawrth 2 Awst 2016.
Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg' (2007)
Mae ymchwil ynghylch caffael cenedl ramadegol wedi dangos, mewn nifer o ieithoedd, fod plant yn cael meistrolaeth ar genedl yn gynnar. Yn aml, yn yr ieithoedd hyn, mae marcio cenedl yn eithaf amlwg ac mae'n cynnig cyfatebiaeth un-i-un glir rhwng marciwr a'r genedl a godiwyd. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae marcio cenedl yn fwy cymhleth. Mae'n cael ei marcio drwy dreigladau, sef cyfres o newidiadau morffo- ffonolegol sy'n effeithio ar gytseiniaid cyntaf geiriau, ac mae'r mapio rhwng treiglad a chenedl yn eithaf anhryloyw. Defnyddir dau fath o dreiglad i farcio cenedl fenywaidd: mae enwau benywaidd yn cael eu newid gan y fannod benodol ac mae ansoddeiriau sy'n dilyn enwau benywaidd yn cael eu treiglo'n feddal, ac mae cenedl fenywaidd yr ansoddair meddiannol 'ei' yn cael ei marcio drwy dreiglo'r enw a newidir yn llaes. Mae'r papur hwn yn cyflwyno dwy astudiaeth sy'n archwilio meistrolaeth gynhyrchiol plant ac oedolion ar genedl fel y'i mynegir drwy dreiglo enwau a newidir gan y fannod benodol, ac ansoddeiriau yn newid enwau. Gwahoddwyd plant, rhwng 4½ a 9 oed, ac oedolion i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Yn gyntaf, cynhaliwyd astudiaeth led-naturiolaidd i gael gwybodaeth am ddefnydd y siaradwyr o farcio cenedl. Yna, defnyddiwyd gweithdrefn Cloze i gymell y siaradwyr i greu ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, gyda geiriau go iawn a ffurfiau disynnwyr, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ieithyddol. Roedd rhai o'r cyd-destunau hyn yn rhoi awgrym o statws cenedl, ond nid oedd rhai eraill. Roedd y data a gafwyd yn dangos bod caffael y system genedl Gymraeg yn broses hirfaith, ac nad yw plant wedi meistroli'r system hyd yn oed erbyn 9 oed. Mae siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed pan maent yn oedolion, yn rhoi ychydig o sylw, neu ddim, i'r awgrymiadau posibl sy'n bresennol yn y mewnbwn. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, pan fo gan iaith system genedl gymhleth sydd wedi'i marcio gan brosesau morffo-ffonolegol anhryloyw, fod y cwrs datblygu yn faith ac yn amrywiol. Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 53-81.
#Fi: Ben a Hollie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae Ben yn 'sgrifennu blog ar ei wefan er mwyn rhannu ei brofiad o fod â chwaer awtistig. Mae her fawr yn ei wynebu fe a'i chwaer wrth iddyn nhw helpu i drefnu cyngerdd arbennig i godi arian tuag at awtistiaeth. Boom Cymru, 2013.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Adroddiad Swan-Linx Cymru ar iechyd a lles plant ysgol
Dyma adroddiad sy'n deillio o waith Prifysgol Abertawe ar brosiect Swan-Linx, prosiect iechyd a ffitrwydd sydd â'r nod o ymchwilio i iechyd a lles plant ysgol ym mlynyddoedd 5 a 6 (9-11 oed). Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gasglwyd drwy gyfrwng: Arolwg iechyd ar y we o'r enw CHAT (Child Health and Activity Tool) sy'n gofyn cwestiynau am ymddygiadau iechyd gwahanol gan gynnwys diet, gweithgaredd corfforol, cwsg a lles. Diwrnod Hwyl Ffitrwydd, lle cafodd BMI (Mynegai Màs y Corff), ffitrwydd aerobig, cyflymder, cryfder, ystwythder, p?er, a hyblygrwydd yn cael eu mesur. Ariannwyd y gwaith cyfrwng Cymraeg gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cefnogi Pob Plentyn
od y gyfrol hon yw cyflwyno rhai pynciau perthnasol mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig i fyfyrwyr sydd yn astudio Graddau Sylfaen yn y maes addysg a gofal. Nid canllaw arfer dda a geir yma ond yn hytrach fraslun o bolisïau, athroniaeth ac ymarfer cyfredol. Caiff pynciau penodol eu trafod ym mhob pennod ac mae’r rhain yn amrywio o ddatblygiad, hawliau, lles a diogelu plant i gynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwarae a chreadigrwydd.
Ap Hanfodion Dysgu Dwyieithog
Mae’r ap hwn yn helpu athrawon i roi’r cyfle i bawb i ddefnyddio eu dewis iaith yn yr ystafell ddosbarth.
Sgiliau Iaith i Athrawon
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn cynnwys cyfres o adnoddau a ddatblygwyd i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith ar gyfer y dosbarth.
Mae'r adnoddau i'w cael yn llawn ar-lein, neu gellir lawrlwytho'r ap i'ch dyfais symudol er mwyn cael blas arnynt.