Mae "Cyflwyniad i Ieithyddiaeth" yn gyflwyniad i hanfodion Ieithyddiaeth ar gyfer myfyrwyr sydd heb gefndir, neu heb fawr o gefndir, mewn astudio iaith a phynciau ieithyddol (e.e seiniau iaith, morffoleg a chystrawen, ystyr, amlieithrwydd a sosioieithyddiaeth).
Cyflwyniad i ieithyddiaeth
Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu – Delyth Prys a Robat Trefor
Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar gyfieithu, technolegau cyfieithu a hanes a sefyllfa'r diwydiant yng Nghymru. Mae'r cyfraniadau yn seiliedig ar waith ymchwil y cyfranwyr, ac ar gyflwyniadau a roddwyd ganddynt wrth hyfforddi myfyrwyr a chyfieithwyr mewn sesiynau ar gyfer Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chwrs Tystysgrif Ôl-radd Astudiaethau Cyfieithu a Thechnoleg Cyfieithu Prifysgol Bangor. Cyfrol wreiddiol sydd ar gael ar ffurf e-lyfr yn unig.Mae'r penodau fel a ganlyn: Pennod 1: Cyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol cyfieithu yn y Gymru gyfoes – Tegau Andrews, Pennod 2: Cyweiriau Iaith y Gymraeg – Robat Trefor, Pennod 3: Geiriaduron, termiaduron ac adnoddau defnyddiol eraill – Delyth Prys, Pennod 4: Meddalwedd a Thechnoleg Cyfieithu – Gruffudd Prys, Delyth Prys, Pennod 5: Golygu a Phrawfddarllen – Mared Roberts, Pennod 6: Theori ac ymarfer cyfieithu yng Nghymru heddiw – Sylvia Prys Jones,Pennod 7: Oes Rhywun yn Darllen? – Heini Gruffudd.
Y Pymtheg Olaf (2014)
Bydd cyn-flaenasgellwr Cymru a Llanelli, Dafydd Jones, yn mynd ar drywydd y Pymtheg Olaf mewn rhaglen arbennig fydd yn dilyn hanes tîm rygbi Cymru 1914. Roedd tîm rygbi rhyngwladol Cymru yn 1914 yn dîm hynod lwyddiannus ac yn cynnwys llawer o'r chwaraewyr a oedd wedi ennill tair Camp Lawn rhwng 1908 a 1911. Caent eu hadnabod fel carfan rymus tu hwnt yn gorfforol, llysenw eu blaenwyr oedd 'the terrible eight'. Roedd hyn mewn cyfnod ymhell cyn i'r gêm fynd yn broffesiynol, ac roedd sawl crefft gwaith yn y tîm, gyda'r gweinidog Jenkin Alban Davies o Aberaeron yn gapten ar y garfan. Ond yn ystod y Rhyfel Mawr a ddechreuodd yn 1914, ymrestrodd naw ohonynt yn y fyddin, chwe wythnos wedi eu gêm ryngwladol olaf yn erbyn Iwerddon. Tinopolis, 2014.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Taith yr Iaith (2006)
Gwyneth Glyn sy’n dilyn taith yr iaith Gymraeg o’i gwreiddiau yn Rwsia hyd ei sefyllfa bresennol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Phylip Brake, 'Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau'
Mae'r papur hwn yn ceisio rhoi cyfrif am yr amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg ardal Treorci yng nghwm Rhondda Fawr ar ddiwedd yr 1970au. Gwneir hyn drwy ddefnyddio ac addasu dulliau sosioieithyddol a ddatblygwyd gan arloeswyr yn y maes, yn enwedig William Labov. Dechreuir drwy roi disgrifiad ffonolegol clasurol o Gymraeg y siaradwyr brodorol a recordiwyd. Ond wedyn eir ymlaen i archwilio'r berthynas rhwng yr amrywio 'rhydd' a nodwyd yn iaith y siaradwyr, a hyn drwy gysyniad y newidyn ieithyddol a'r rhwydwaith cymdeithasol. Ceir dadansoddiad manwl o'r data – yn feintiol ac yn ansoddol – sy'n ychwanegu at ein gwybodaeth o dafodieithoedd y Gymraeg, ynghyd â'n helpu i ddeall sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ddewis iaith siaradwyr unigol. Phylip Brake, 'Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 9-44.
Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau ...
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl ansawdd ac amlder amlygiad i fewnbwn ieithyddol (h.y. i ba raddau yr amlygir unigolion i iaith o wahanol ffynonellau yn ystod eu bywydau) ar gaffaeliad oedolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o'r system o greu enwau lluosog Cymraeg. Dangosodd ymchwil flaenorol y ceir gwahaniaethau rhwng plant dwyieithog o gefndiroedd iaith gwahanol. Er ei fod yn bosibl lleihau'r gwahaniaeth wrth iddynt gael eu hamlygu fwyfwy i'r iaith honno, mae cwestiwn ynghylch pa mor gyflym y gellir cael llai o wahaniaethau (os o gwbl) pan fo strwythurau iaith yn gymhleth, yn enwedig os defnyddir y system yn anghyson ymysg gwahanol oedolion. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae'r gwahaniaethau hyn yn diflannu yn ansicr, gan nad oes ymchwil wedi'i chynnal ymysg unigolion dros 11 oed. Felly nod yr astudiaeth oedd asesu gallu oedolion Cymraeg-Saesneg o wahanol gefndiroedd dwyieithog i greu ffurfiau lluosog o enwau Cymraeg er mwyn olrhain i ba raddau y gwelwyd lleihad yn y gwahaniaethau rhwng plant dros amser. Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 31–46.
Hir Oes i'r Iaith – Robert Owen Jones
Mae iaith a chymdeithaseg yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni all iaith fodoli heb bobl i'w siarad ac ni all unrhyw gymuned weithredu'n ystyrlon heb iaith. Yn y gyfrol hon edrychir ar y berthynas rhwng y ddwy wedd holl bwysig ar fywyd dyn gan geisio darlunio'r effaith a gaiff cyfnewidiadau cymdeithasol ar barhad a ffyniant iaith. Edrychwn ar y Gymraeg dros bedair canrif ar ddeg gan geisio dangos sut y gall digwyddiadau unigol lunio tynged iaith, a sut y gall newid mewn ymagweddiad roi anadl einioes mewn sefyllfa a oedd yn bur anobeithiol. Y Gymraeg sydd dan y chwyddwydr, ond cymherir y sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn gwledydd eraill. Dadleuir mai'r rhan bwysicaf ym mhroses adfer iaith yw deall pa ffactorau sy'n achosi erydiad. Yna gellir gweithredu polisi iaith a ddylai ddwyn ffrwyth, gan sicrhau 'hir oes i'r iaith'.
Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithi...
Mewn rhan o Gymru lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth yn ddwyieithog, nid oedd unrhyw therapyddion Cymraeg gan un gwasanaeth adsefydlu corfforol cymunedol. Asesodd mesur deilliannau a gydnabyddir yn rhyngwladol effeithiolrwydd yr adsefydlu. Yr oedd gan gleifion Cymraeg eu hiaith ganlyniadau yn sgil yr adsefydlu oedd yn sylweddol is na siaradwyr di- Gymraeg (p<0.05). Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol mewn ardal arall lle'r oedd y therapyddion yn ddwyieithog. Awgryma'r canfyddiadau fod gallu therapyddion i siarad iaith gyntaf cleifion yn dylanwadu ar effeithiolrwydd therapi. Cymharwyd canran yr unigolion a gyfeiriwyd (gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol) ac a fedrai'r Gymraeg â'r ganran o siaradwyr Cymraeg y rhagwelid eu cyfeirio ar sail nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd nifer sylweddol lai o siaradwyr Cymraeg eu cyfeirio at y gwasanaeth adsefydlu na'r canran a ragwelid (p<0.001). Er bod hyn yn awgrymu y medr y ffaith na all gweithwyr proffesiynol siarad Cymraeg effeithio'n negyddol ar siaradwyr Cymraeg sy'n cyrchu gwasanaethau, fe all fod rhesymau seico-gymdeithasol amlffactoraidd eraill i'w hystyried. Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 83-112.
Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd d...
Mae'r llenyddiaeth yn cynnwys sawl astudiaeth ar gyfnewid cod. Mae'r dull cymdeithasol-ddiwylliannol o astudio rhyngweithio yn y dosbarth fel y'i disgrifir gan Mercer (2000) yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddisgwrs dosbarthiadau iaith. Nododd Mercer nifer o dechnegau iaith a ddefnyddir gan athrawon. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi safbwyntiau athrawon dan hyfforddiant ar gyfnewid cod fel ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr astudiaeth, cynhaliwyd archwiliad o ymarfer dosbarth dwy athrawes dan hyfforddiant oedd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg. Arsylwyd y ddwy a chofnodwyd eu haddysgu. Hefyd cynhaliwyd cyfweliadau gyda'r athrawon dan hyfforddiant er mwyn eu holi am eu hagweddau at y defnydd o'r iaith gyntaf mewn dosbarth uwchradd lle mae'r Saesneg yn ail iaith. Dadansoddir y data a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau dadansoddi disgwrs beirniadol. Ystyrir yn benodol i ba raddau yr oedd yr athrawon dan hyfforddiant yn llwyddo i ddysgu mewn modd oedd o fewn cyrraedd y disgyblion dwyieithog o dan eu gofal. Roedd yr achlysuron pan oedd yr athrawon yn newid o'r Saesneg i'r Gymraeg am funud i weld yn cyfateb i'r swyddogaethau cyfnewid cod a nodwyd gan Camilleri. Mae'r cyfnewid cod yn awgrymu ffordd gyfreithlon o ddefnyddio adnoddau iaith cyffredin i sgaffaldio dysgu disgyblion. Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 158-95.
Llawlyfr Hen Gymraeg – Alexander Falileyev
Dyma'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau'r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae'n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi'r gwaith i'r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi'i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i'w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae'n cynnwys disgrifiadau manwl o'r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i'r Cymry ddod i adnabod rhai o'r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith. Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol Golygydd y Gyfres: Dr Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth.
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg Gymraeg yn y De-ddwyrain gan Dylan Foster Evans. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Mawrth 2 Awst 2016.
David Willis, 'Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg' (2019)
Mae’r rheolau sy’n pennu treigladau a ffurfiau enwau ac ansoddeiriau ar ôl rhifolion mewn Cymraeg Canol yn aml yn peri dryswch i ddarllenwyr cyfoes. Mae’r erthygl hon yn braslunio’r rheolau a rhoi dadansoddiad synchronig ohonynt. Dangosir eu bod yn seiliedig ar system gydlynol lle mae rhif (unigol, deuol, rhifol, lluosog) yn ganolog. Gellir cofnodi a dyddio’r newidiadau ieithyddol sydd wedi digwydd ers hynny yn fanwl drwy ddefnyddio tystiolaeth destunol. Dadleuir y gellir deall y newidiadau hyn fel camau ar hyd llwybr tuag at system newydd, yr un mor gydlynol â’i rhagflaenydd, lle y mae pob ymadrodd rhifol yn ramadegol unigol, a chenedl yn hytrach na rhif sy’n penderfynu ffurf a threigladau ill dau.