Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2012 837

Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg' (2012)

Disgrifiad

Mewn rhan o Gymru lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth yn ddwyieithog, nid oedd unrhyw therapyddion Cymraeg gan un gwasanaeth adsefydlu corfforol cymunedol. Asesodd mesur deilliannau a gydnabyddir yn rhyngwladol effeithiolrwydd yr adsefydlu. Yr oedd gan gleifion Cymraeg eu hiaith ganlyniadau yn sgil yr adsefydlu oedd yn sylweddol is na siaradwyr di- Gymraeg (p<0.05). Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol mewn ardal arall lle'r oedd y therapyddion yn ddwyieithog. Awgryma'r canfyddiadau fod gallu therapyddion i siarad iaith gyntaf cleifion yn dylanwadu ar effeithiolrwydd therapi. Cymharwyd canran yr unigolion a gyfeiriwyd (gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol) ac a fedrai'r Gymraeg â'r ganran o siaradwyr Cymraeg y rhagwelid eu cyfeirio ar sail nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd nifer sylweddol lai o siaradwyr Cymraeg eu cyfeirio at y gwasanaeth adsefydlu na'r canran a ragwelid (p<0.001). Er bod hyn yn awgrymu y medr y ffaith na all gweithwyr proffesiynol siarad Cymraeg effeithio'n negyddol ar siaradwyr Cymraeg sy'n cyrchu gwasanaethau, fe all fod rhesymau seico-gymdeithasol amlffactoraidd eraill i'w hystyried. Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 83-112.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Ieithyddiaeth, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 10/11

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.