Ychwanegwyd: 19/03/2024 Dyddiad cyhoeddi: 2024 459 Dwyieithog

Arferion Da o Ran Datblygu Darpariaeth Addysgol ac Addysgu mewn Iaith Leiafrifiedig mewn Prifysgolion: Enghreifftiau o Gymru ac Iwerddon

Disgrifiad

Pwrpas y llyfryn yma yw rhannu arferion da o ran datblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig mewn prifysgolion. Mae’r arferion da sydd yn cael eu trafod yn y llyfryn hwn yn dod o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda darlithwyr a myfyrwyr yn edrych ar eu profiadau o addysg gyfrwng Gymraeg a chyfrwng Wyddeleg mewn prifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon.

Mae'r llyfryn yn trafod:

  • arferion da o ran annog myfyrwyr i astudio mewn iaith leiafrifiedig
  • datblygu darpariaeth mewn iaith leiafrifiedig
  • addysgu mewn iaith leiafrifiedig
  • cefnogi myfyrwyr mewn iaith leiafrifiedig
  • asesiadau mewn iaith leiafrifiedig
  • normaleiddio defnydd o’r iaith leiafrifiedig ymysg myfyrwyr.

Rydyn ni’n rhagweld bydd y llyfryn yma’n ddefnyddiol nid yn unig i ddarlithwyr a darparwyr addysg uwch yn y gwledydd yma, ond hefyd i ddarlithwyr, ddarparwyr addysg uwch a darparwyr mewn sectorau addysg eraill yn rhannau eraill o’r byd sy’n datblygu darpariaeth addysgol ac yn addysgu mewn iaith leiafrifiedig.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Ieithyddiaeth, Cymraeg
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
E-lyfr
mân lun arfer da

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.