Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2012 797

Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru' (2012)

Disgrifiad

Mae'r llenyddiaeth yn cynnwys sawl astudiaeth ar gyfnewid cod. Mae'r dull cymdeithasol-ddiwylliannol o astudio rhyngweithio yn y dosbarth fel y'i disgrifir gan Mercer (2000) yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddisgwrs dosbarthiadau iaith. Nododd Mercer nifer o dechnegau iaith a ddefnyddir gan athrawon. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi safbwyntiau athrawon dan hyfforddiant ar gyfnewid cod fel ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr astudiaeth, cynhaliwyd archwiliad o ymarfer dosbarth dwy athrawes dan hyfforddiant oedd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg. Arsylwyd y ddwy a chofnodwyd eu haddysgu. Hefyd cynhaliwyd cyfweliadau gyda'r athrawon dan hyfforddiant er mwyn eu holi am eu hagweddau at y defnydd o'r iaith gyntaf mewn dosbarth uwchradd lle mae'r Saesneg yn ail iaith. Dadansoddir y data a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau dadansoddi disgwrs beirniadol. Ystyrir yn benodol i ba raddau yr oedd yr athrawon dan hyfforddiant yn llwyddo i ddysgu mewn modd oedd o fewn cyrraedd y disgyblion dwyieithog o dan eu gofal. Roedd yr achlysuron pan oedd yr athrawon yn newid o'r Saesneg i'r Gymraeg am funud i weld yn cyfateb i'r swyddogaethau cyfnewid cod a nodwyd gan Camilleri. Mae'r cyfnewid cod yn awgrymu ffordd gyfreithlon o ddefnyddio adnoddau iaith cyffredin i sgaffaldio dysgu disgyblion. Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 158-95.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Ieithyddiaeth, Addysg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 10/11

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.