Ychwanegwyd: 03/09/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2019 918

Mathemateg Pob Dydd 2

Disgrifiad

Mae bod â sgiliau da mewn mathemateg yn bwysig mewn bywyd beunyddiol. Yn wir, mae’n bosibl nad ydych wedi sylwi pa mor aml rydych yn defnyddio mathemateg o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg, ac mae wedi’i gynllunio i’ch ysbrydoli i wella eich sgiliau mathemateg presennol ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd y gallech fod wedi’u hanghofio. Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a’r gweithgareddau rhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu, ymhlith pethau eraill, i gyfrifo faint o baent y bydd ei angen arnoch ar gyfer addurno, a throsi arian, neu symud ymlaen yn eich gyrfa neu addysg bellach. I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angen i chi ddefnyddio cyfrifiannell, papur a phen, a phrotractor. Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn. Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a gyda chymorth caredig Dangoor Education, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation. Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Joanne Davies, West Herts College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a Middlesborough College.

 

Trwydded OGL (Llywodraeth Agored: Mae'r Brifysgol Agored yn falch o ryddhau'r cwrs rhad ac am ddim hwn o dan drwydded Llywodraeth Agored.) sydd wedi ei nodi ar gyfer yr adnodd yma.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Mathemateg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Cwrs/Uned
mân-lun cwrs mathemateg

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.