Dyma gweminar ar gyfer dysgwyr a thiwtoriaid y cynllun Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch ac unrhyw un sydd â rôl gynllunio o safbwynt y Gymraeg yn eu sefydliad. Fe’i cynhelir trwy Zoom trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. O dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mae’r cynllun wedi bod yn uwchraddio sgiliau Cymraeg staff mewn prifysgolion a cholegau ledled Cymru ers pum mlynedd. Ymunwch â'n gweminar i ddathlu llwyddiannau Cymraeg Gwaith yn y ddau sector ac i glywed gan y dysgwyr eu hunain. Bydd ail ran y gweminar yn gyfle i glywed am ddatblygiadau i’r dyfodol. Dyddiad ac amser Dydd Iau 16 Rhagfyr 10yb-11.30yb 10yb – Dathlu Cymraeg Gwaith 11yb – Datblygu Cymraeg Gwaith Cyfranwyr Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Nia Brodrick - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach Owen Thomas - Cydlynydd Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch Panel y Dysgwyr: Cynrychiolwyr o golegau ac o brifysgolion Cymru Tiwtoriaid y cynllun I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Dathlu a Datblygu Cymraeg Gwaith
Troi'r Trai Mewn Tri Deg Mlynedd - Pwysigrwydd y Gymraeg yn y Gymru fodern
Mae'r modiwl ar-lein hwn yn edrych ar bwysigrwydd sgiliau da yn y Gymraeg wrth fynd i’r byd gwaith. Mae’n ystyried yn benodol beth yw manteision parhau i astudio’r Gymraeg ar ôl TGAU. Mae’r modiwl wedi ei anelu yn bennaf at ddisgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion. Gall hefyd fod o ddefnydd i unrhyw un sydd eisiau dysgu am le a statws y Gymraeg yn y Gymru gyfoes a sut gallwn ni gyd wneud cyfraniad i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2021 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).