Adnodd digidol sy'n cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru. Datblygwyd gwefan Tregyrfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bwriad Tregyrfa yw rhannu gwybodaeamth am y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r maes gofal.
Torri Newyddion Drwg
Fideo 'Torri Newyddion Drwg' sy'n darparu cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n siarad Cymraeg. Mae sgiliau cyfathrebu yn hanfodol wrth ofalu am bobl fregus. Os ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi offer dysgu i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal iddynt allu rhoi newyddion drwg yn iaith frodorol y person.O ganlyniad, llwyddodd Janine Wyn Davies i ennill grant ariannol er mwyn datblygu ffilm yma. Mae'r ffilm yn seiliedig ar fam yn cael gwybod iddi ddioddef 'erthyliad coll', oedd yn golygu nad oedd ei beichiogrwydd yn hyfyw mwyach.Mae'r rhan fwyaf o'r actorion yn y ffilm yn aelodau staff Prifysgol De Cymru.
Pecyn Rhyngweithiol ar gyfer Nyrsio
Rhaglen ryngweithiol wedi ei seilio ar Bapur Briffio LLAIS: Ymwybyddiaeth o Iaith mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Adfywio cleifion: canllaw i nyrsys
Dyma fideo sy'n dangos sut i fynd i'r afael ag adfywio claf.
Adnoddau mentora a darpariaeth ddwyieithog
Mae mentoriaid yn chwarae rhan unigryw yn cefnogi myfyrwyr ac yn eu cynorthwyo i ddysgu yn yr amgylchedd clinigol. Prif bwrpas mentora yw cynorthwyo'r myfyriwr i ddysgu a datblygu a'u cynorthwyo i ddod yn rhan o'r lleoliad gofal iechyd. Ers pan gyflwynwyd Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) ac yn fwy diweddar Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae dwyieithrwydd wedi dod yn realiti cynyddol mewn lleoliadau clinigol ledled Cymru, wrth i sefydliadau gofal iechyd ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Yng ngoleuni gofynion o'r fath, mae mwy o alw am bobl broffesiynol ym maes gofal iechyd gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau i ymarfer yn ddwyieithog. Mae hyn wedi ysgogi mentrau newydd cyffrous er mwyn datblygu ac ehangu darpariaeth ddwyieithog o fewn rhaglenni addysg gofal iechyd a hybu sensitifrwydd iaith wrth ymarfer.Datblygwyd y deunyddiau yma gyda'r nôd i gefnogi mentora mewn lleoliad dwyieithog. Maent yn cynnwys:â– Cynnig arweiniad ac adnoddau i fentoriaid i gefnogi myfyrwyr yn y lleoliad dwyieithog.â– Amlinellu'r angen i ddatblygu ymarfer mewn gofal iechyd sy'n ieithyddol addas.â– Canfod ffyrdd o ddatblygu sensitifrwydd ieithyddol mewn ymarfer.â– Edrych ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer ymarfer.Yn ogystal, mae
Nyrsio: Pecynnau Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Pecynnau dysgu i ddatblygu gwybodaeth myfyrwyr yw'r adnoddau hyn, yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig. Mae'r pecynnau'n cyfrannu at fodiwlau penodol yn ysgol Nyrsio, Prifysgol De Cymru, ond gallant hefyd gael eu defnyddio gan fyfyrwyr o brifysgolion eraill sy'n astudio ar unrhyw gangen Nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallant hefyd fod yn adnoddau a fyddai o ddefnydd i'r sawl sy'n ymddiddori yn y maes. Mae pump pecyn dysgu wedi eu datblygu. Mae'r Rhith Rheolwr Poen yn efelychu peiriant PCA (peiriant sy'n galluogi claf i weinyddu analgesia i'w hun). Pwrpas yr adnodd rhyngweithiol yma yw dysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio'r peiriant ac i ystyried y fath o ofal nyrsio y dylid darparu mewn lleoliad ysbyty. Gellir lawrlwytho pedwar pecyn dysgu ychwanegol yn yr adran 'Cyfryngau cysylltiedig' ar ôl dilyn y ddolen isod. Mae'r pecynnau Rheoli Meddyginiaethau a Gofal, Tosturi a Chyfathrebu yn cynorthwyo myfyrwyr nyrsio i ddeall elfennau a rheolau ynghlwm â rhannau yma o rôl y nyrs. Bwriad y pecynnau Rheoli Poen Aciwt ac Oriau Canolbwyntio yw cynnig dull arall o ddysgu i fyfyrwyr nyrsio ynglŷn â gofalu am glaf mewn poen a chlaf sy'n dioddef o ganser.
Ap Gofalu Trwy'r Gymraeg
Crewyd yr ap hwn ar gyfer Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle neu wrth astudio. Mae'r eirfa wedi ei rhannu i 21 o adrannau gan gynnwys Ososteopathi, Bydwreigiaeth a Thechnoleg Glinigol. Gall defnyddwyr ddewis cuddio neu ddangos y Saesneg ar y tudalennau wrth i'w Cymraeg wella. Dyluniwyd, datblygwyd a recordiwyd sain yr ap gan Galactig. Y gyflwynwraig Nia Parry leisiodd yr ap.