Ychwanegwyd: 22/04/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2014 979

Nyrsio: Pecynnau Dysgu Cyfrwng Cymraeg

Disgrifiad

Pecynnau dysgu i ddatblygu gwybodaeth myfyrwyr yw'r adnoddau hyn, yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig. Mae'r pecynnau'n cyfrannu at fodiwlau penodol yn ysgol Nyrsio, Prifysgol De Cymru, ond gallant hefyd gael eu defnyddio gan fyfyrwyr o brifysgolion eraill sy'n astudio ar unrhyw gangen Nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallant hefyd fod yn adnoddau a fyddai o ddefnydd i'r sawl sy'n ymddiddori yn y maes. Mae pump pecyn dysgu wedi eu datblygu.

Mae'r Rhith Rheolwr Poen yn efelychu peiriant PCA (peiriant sy'n galluogi claf i weinyddu analgesia i'w hun). Pwrpas yr adnodd rhyngweithiol yma yw dysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio'r peiriant ac i ystyried y fath o ofal nyrsio y dylid darparu mewn lleoliad ysbyty.

Gellir lawrlwytho pedwar pecyn dysgu ychwanegol yn yr adran 'Cyfryngau cysylltiedig' ar ôl dilyn y ddolen isod.

Mae'r pecynnau Rheoli Meddyginiaethau a Gofal, Tosturi a Chyfathrebu yn cynorthwyo myfyrwyr nyrsio i ddeall elfennau a rheolau ynghlwm â rhannau yma o rôl y nyrs. Bwriad y pecynnau Rheoli Poen Aciwt ac Oriau Canolbwyntio yw cynnig dull arall o ddysgu i fyfyrwyr nyrsio ynglŷn â gofalu am glaf mewn poen a chlaf sy'n dioddef o ganser.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Nyrsio, Iechyd a Gofal
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
mân-lun pecyn nyrsio

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.