Yn yr adnodd hwn byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o fusnesau a’u marchnadoedd. Mae’r adnodd wedi ei rhannu’n ddwy rhan:
Rhan 1) Modiwlau Archwilio Busnes
Rhan 2) Modiwlau Marchnata
Yma cewch wybodaeth ynglŷn â busnesau a chwmnïau yng Nghymru y gallwch ei defnyddio i ymchwilio ymhellach neu er mwyn cwblhau aseiniadau.
Byddwch hefyd yn dod ar draws ymarferion byr ac astudiaethau achos a fydd yn profi eich dealltwriaeth yn fras.
Mae'r adnodd hwn yn targedu dysgwyr sy'n astudio cyrsiau busnes ar lefel 3.