Ychwanegwyd: 10/09/2026 Dyddiad cyhoeddi: 2026 6 Dwyieithog

Canllawiau Asesu Dwyieithog mewn Cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal

Disgrifiad

Mae’r adnodd hwn yn darparu argymhellion i diwtoriaid, aseswyr ac ymarferwyr sy’n cyflwyno cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal yn ddwyieithog. Ei nod yw cefnogi dysgwyr i gyflwyno o leiaf hanner eu hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu eu hyder a’u gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae’r adnodd yn cynnwys taenlen sy’n cynnig syniadau ar gyfer tasgau asesu crynodol a ffurfiannol, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer elfennau o’r cymhwyster y gall tiwtoriaid ac aseswyr eu targedu drwy’r Gymraeg. Ceir tudalen yn y daenlen ar gyfer pob un o’r unedau hanfodol (Unedau 1–6).

Mae modd cael mynediad at ffeithluniau dwyieithog sy’n amlinellu llwybr clir a gweledol ar gyfer cyflawni asesiadau dwyieithog fesul uned ym maes Iechyd a Gofal. Gellir addasu cynnwys y ffeithluniau i ddiwallu anghenion dysgwyr a gofynion sefydliadau unigol.

Noder: Nid yw ffeithlun Uned 6 ar gael eto a bydd yn cael ei ychwanegu at yr adnodd maes o law. Bydd y fersiwn ddiweddaraf o’r adnodd yn cael ei diweddaru pan fydd ar gael.

 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Iechyd a Gofal
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Casgliad
Canllawiau Asesu Dwyieithog mewn Cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.