Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2013 890

Osian Rees a Huw Pritchard, 'Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng Nghymru' (2013)

Disgrifiad

Arweiniodd datganoli at wahaniaethau sylweddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr. Yn ogystal, mae'r drafodaeth ynghylch yr angen i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig ar wahân i Loegr wedi dechrau o ddifrif. Gyda hyn mewn golwg, mae'r erthygl yn edrych ar addysg gyfreithiol yng Nghymru, ac yn ystyried pa ddatblygiadau sy'n angenrheidiol er mwyn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil datganoli, yn ogystal ag unrhyw ddatblygiadau pellach y byddai galw amdanynt pe sefydlid awdurdodaeth Gymreig. Yn sgil hynny, mae'r erthygl yn amlinellu rhai o ddarganfyddiadau allweddol prosiect ymchwil empeiraidd a gynhaliwyd yng Ngogledd Iwerddon, sydd – fel awdurdodaeth fechan â llywodraeth ddatganoledig o fewn y Deyrnas Unedig – yn cyflwyno safbwynt dadlennol. Osian Rees a Huw Pritchard, 'Gwersi o Ogledd Iwerddon: Awdurdodaeth Gymreig a dyfodol addysg gyfreithiol yng Nghymru', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 40-62.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cyfraith, Addysg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 16

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.