Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2013 721

Ffion Curtis et al., 'Iechyd a newidiadau ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag oedran mewn ardaloedd gwledig: y pwyslais ar bryderon cyfredol yng Nghymru' (2013)

Disgrifiad

Ystyrir y cynnydd yng nghanran y boblogaeth hŷn yn her fyd-eang yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y Gymru gyfoes, mae'r anghydbwysedd cynyddol ym mhroffeil oedran y gymdeithas – mewn cymunedau gwledig yn arbennig – yn codi cwestiynau pwysig ynghylch darparu gofal iechyd addas i'r boblogaeth hÅ·n. Ceir galw cynyddol am y gofal hwnnw yn wyneb elfennau ffordd o fyw a gysylltir â henaint; lefelau isel o weithgaredd corfforol, llai o amlygiad i'r haul ynghyd â gallu'r corff i syntheseisio Fitamin D. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar ddau o'r problemau iechyd mwyaf sy'n ganlyniad i'r elfennau hyn, a bair ofid cynyddol yng Nghymru, sef clefyd siwgr (DM2: diabetes mellitus math 2) ac achosion o gwympo (cael codwm). Cyflwynir adolygiad beirniadol ar y dystiolaeth ddogfennol a gasglwyd ynghylch y berthynas rhwng lefelau gweithgaredd corfforol, Fitamin D a'r pathogenesis o DM2 ac achosion o gwympo. Eir ati hefyd i drafod natur ymyriadau cyfredol cyn cyflwyno cyfres o argymhellion ynglŷn â sut i ddarparu gwasanaethau gwell er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn, yn bennaf yng Nghymru wledig. Gall targedu ffordd o fyw chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau'r achosion o DM2 a chwympo; dau bryder cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru heddiw. Ffion Curtis, E. J. Oliver, A. W. Jones, S. Rice, a R. Thatcher, 'Iechyd a newidiadau ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag oedran mewn ardaloedd gwledig: y pwyslais ar bryderon cyfredol yng Nghymru', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 28-39.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 16

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.