Ychwanegwyd: 21/03/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1K Cymraeg Yn Unig

Methodolegau Ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Disgrifiad

Amcanion y gweithdai:

Cyflwyno prif hanfodion Dulliau Ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd gan ddilyn yr amcanion canlynol:

  • olrhain hanes a gwreiddiau damcaniaethau methodoleg ymchwil;
  • cyflwyno cysyniadau craidd dulliau ymchwil
  • cynnig technegau amrywiol o ymchwilio’n ansoddol ac yn feintiol;
  • camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil

Cynnwys:

Mae’r gweithdai ar-lein hyn wedi eu rhannu yn dair rhan sy’n trin a thrafod cysyniadau allweddol ym maes dulliau ymchwil a’r camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil.

  • Rhan 1 – Pwrpas ymchwil gymdeithasol: epistemoleg, ontoleg ac ymchwil empeiraidd
  • Rhan 2 – Persbectifau, strategaethau a chwestiynau ymchwil
  • Rhan 3 – Dadansoddi a dehongli data

Cyflwynydd: Dr Rhian Hodges

Mae Dr Rhian Hodges yn Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor ers dros ddegawd bellach. Mae’n addysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg ym maes addysg, cymdeithaseg, cynllunio ieithyddol, cymdeithaseg cerddoriaeth a dulliau ymchwil ac wrth ei bodd yn dysgu ystod eang o bynciau gwahanol drwy’r Gymraeg.

Ei maes ymchwil arbenigol yw cynllunio ieithyddol, ac yn arbennig siaradwyr newydd y Gymraeg, defnydd cymunedol o’r Gymraeg, ac addysg cyfrwng Cymraeg fel dull adfywio’r Gymraeg yng Nghymru.

Mae’n dod yn wreiddiol o Fargoed, Cwm Rhymni ond mae hi wedi ymgartrefu ym Mangor ers cyfnod sylweddol bellach. Mae hi wedi hen arfer teithio lan a lawr yr A470 i weld teulu a ffrindiau’r cymoedd.

Bydd y gweithdai hyn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd wrthi’n cynllunio eu traethodau hir a thraethodau ymchwil gan mae’n cynnig cyfle i ystyried camau hollbwysig y broses ymchwil a sut mae’n berthnasol i’w hymchwil eu hunain.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
mân-lun methodolegau ymchwil

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.