Mae’r recordiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel fywiog sy’n canolbwyntio ar rôl aseswyr wrth weithio gyda chyflogwyr a phrentisiaid i amlygu gwerth y Gymraeg fel sgil allweddol yn y gweithle.
- Berni Tyler - Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl (Cadeirydd)
- Dafydd Bowen - Cyfarwyddwr Pobl a Llefydd, Mentera
- Gwyn-Arfon Williams – Aseswr yn y gwaith, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Grŵp Llandrillo Menai
- Rhian Williams – Aseswr, Sgil Cymru
- Sue Jeffries – Rheolwr Gyfarwyddwr, Sgil Cymru
- Angharad Elfyn – Prentis, Sgil Cymru
- Helen Davies – Swyddog Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg
Uchafbwyntiau’r Gweminar:
- Lansiad swyddogol yr adnodd ‘Pecyn Prentis’, gyda chyfranwyr o’r adnodd yn rhannu eu profiadau uniongyrchol.
- Trafodaeth rhwng aseswyr a chyflogwyr ar sut gall y pecyn gefnogi eu gwaith o ddydd i ddydd.
- Arferion da yn cael eu rhannu ar sut i argyhoeddi prentisiaid a chyflogwyr o fanteision defnyddio’r Gymraeg.
- Sgwrs agored ar sut i gynyddu hyder aseswyr yn y Gymraeg, gan rannu heriau, llwyddiannau ac enghreifftiau ysbrydoledig.
Cynhaliwyd y sesiwn ar y 18fed o Fehefin 2025.