Ychwanegwyd: 16/05/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 788 Dwyieithog

Astudiaethau Achos Gofal Plant: Cynnwys Pob Plentyn

Disgrifiad

Mae’r adnodd hwn wedi ei baratoi ar gyfer dysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori ac Uned 001 Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed) yn benodol.

Caiff rhai o’r egwyddorion mawr sy’n sail i Uned 001 eu cyflwyno drwy astudiaethau achos, hynny yw 4 stori am blant bach sy’n mynychu darpariaeth plentyndod cynnar, fel cylch meithrin neu feithrinfa. Dyma nhw:

  • Deio sy’n 3 oed ac mae ganddo epilepsi.
  • Hanna sy’n 4 oed ac mae ganddi diabetes.
  • Eshaal sy’n 3 oed ac mae ganddi alergeddau.
  • Caio sy’n dair a hanner oed ac mae ganddo awtistiaeth.

Mae’r astudiaethau yn cynnig golwg ar y plant drwy lens themâu sy’n berthnasol i Deio, Hanna, Eshaal, a Caio – ac i bob plentyn mewn gwirionedd. Y themâu hyn – yr egwyddorion mawr - yw:

  • Hawliau plant
  • Cynhwysiant
  • Cyfle cyfartal


Y peth pwysicaf, wrth gwrs, mewn unrhyw ddarpariaeth yw sicrhau bod pob plentyn yn saff, ond ni ddylai cyflyrau’r plant amharu ar eu hawl i gael hwyl, i ddysgu, i fwynhau cwmni plant eraill, i anturio yn yr awyr agored...

Caiff yr egwyddorion mawr hyn eu fframio mewn deddfwriaeth megis: Deddf Plant 1989 a 2004, Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac mae polisïau a chanllawiau megis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Saith Nod Craidd Llywodraeth Cymru. Bydd rhain yn llinyn aur drwy’r 4 astudiaeth achos ac maen nhw’n berthnasol i Deio, Hanna, Eshaal, a Cai ac eto dyma bwysleisio, eu bod yn bwysig i bob plentyn.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Gofal Plant, Iechyd a Gofal
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
man-lun astudiaethau achos gofal plant

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.