Mae’r adnodd hwn yn cynnig argymhellion i diwtoriaid, aseswyr ac ymarferwyr sy’n cyflwyno cymhwyster Lefel 3 Gofal Plant yn ddwyieithog. Ei nod yw cefnogi dysgwyr i gwblhau o leiaf hanner o’u hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu eu hyder a’u gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Mae’n cynnwys taenlen sy’n darparu syniadau ar gyfer tasgau asesu crynodol a ffurfiannol, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer elfennau o’r cymhwyster y gall tiwtoriaid ac aseswyr eu targedu drwy’r Gymraeg. Mae’r daenlen yn cynnwys tudalen ar gyfer pob un o’r unedau gorfodol (300, 332, 301, 302 a 303), yn ogystal â thudalennau ar gyfer yr unedau dewisol (304, 305 a 306).
Mae modd cael mynediad at ffeithluniau dwyieithog sy’n amlinellu llwybr clir a gweledol ar gyfer cyflawni asesiadau dwyieithog ym maes Gofal Plant. Gellir addasu cynnwys y ffeithluniau i ddiwallu anghenion dysgwyr a gofynion sefydliadau unigol.
Canllawiau Asesu Dwyieithog mewn Cymhwyster Lefel 3 Gofal Plant
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.
