Ychwanegwyd: 18/07/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 423 Dwyieithog

Lluniadu- Dobarth Meistr

Disgrifiad

Cymorth i athrawon a darlithwyr Celf a Dylunio ar godi sgiliau lluniadu dysgwyr yn seiliedig ar gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn benodol ond gall fod o ddiddordeb i staff sy'n dysgu cyrsiau galwedigaethol ar lefelau 2 a 3 hefyd.

Mae'r pecyn yn darparu enghreifftiau ymarferol defnyddiol sy’n dangos yr holl wahanol fathau o luniadu y gellir eu hintegreiddio mewn cynlluniau gwaith. Fel yn achos ysgrifennu mae gan luniadu lawer o wahanol bwrpasau, ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymwybodol ohonynt a’u bod yn cael eu hargyhoeddi o werth caffael sgiliau priodol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu syniadau creadigol a’u cyfleu’n weledol, ym mha ddisgyblaeth bynnag y byddant yn ei hastudio. Mae’r pecyn adnoddau hefyd yn cynnwys deg enghraifft o unedau gwaith sy’n sicrhau bod lluniadu, yn enwedig lluniadu arsylwadol ar sail ffynonellau gwreiddiol (nid ffotograffau), wrth wraidd cynlluniau gwaith cyrsiau sylfaen.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Celf a Dylunio
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Casgliad
mân-lun lluniadu dosbarth meistr

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.