Ychwanegwyd: 13/01/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.1K Cymraeg Yn Unig

Gweithdy Sgiliau Addysgu ar gyfer myfyrwyr Ôl-radd

Disgrifiad

Amcanion y gweithdy 

  • · Gwybodaeth broffesiynol – datblygu eich gwybodaeth am y pwnc y byddwch yn ei ddysgu; 
  • · Gwybodaeth fethodolegol – cyflwyniad i theori sy'n sail i ddysgu ac arferion addysgu (arddulliau dysgu)  
  • · Sgiliau dynameg grŵp penodol – dynameg grŵp, strategaethau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd; 
  • · Gwybodaeth sefydliadol – safonau a rheoliadau, rheolau ac arferion, normau a gwerthoedd. 

Cynnwys 

Bydd y gweithdy ar-lein wedi ei rannu yn bedair rhan: 

  • Rhan 1: Deall rhinweddau personol tiwtor o safon uchel 
  • Rhan 2: Dysgu'r sgiliau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio gwaith addysgu 
  • Rhan 3: Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu gyda grwpiau bach                            
  • Rhan 4: Dod i ddeall rhai egwyddorion allweddol sy’n ymwneud ag asesu. 

Cyflwynydd:

Dyddgu Hywel 

Cefndir 

Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. 

Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. 

Erbyn hyn, mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch-ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae yno ers dros saith mlynedd bellach. Mae’n arbenigo mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu â myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg. 

Bydd y gweithdy hwn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd yn camu i’r byd addysgu am y tro cyntaf, ac eisiau datblygu ar lawr y dosbarth ac ar-lein wrth addysgu’n hyderus ac yn arloesol. 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Addysg, Rhaglen Sgiliau Ymchwil, Addysg Gychwynnol Athrawon
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Sgiliau Addysgu ar gyfer myfyrwyr Ôl-radd

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.