Ychwanegwyd: 05/05/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 649 Cymraeg Yn Unig

Panel Trafod: Branwen

Disgrifiad

Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y chwedl, Branwen, ferch Llŷr.

Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r chwedl gan arbenigwyr ar ryddiaith yr Oesoedd Canol, sef Yr Athro Jerry Hunter a Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor, a Dr Rhiannon Ifans.

Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio'r chwedl ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn rhyddiaith yr Oesoedd Canol.

Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Ebrill 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Chwilio am fwy o adnoddau ar Branwen? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
Mân Lun Panel Trafod Branwen

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.