Ychwanegwyd: 16/05/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 689 Cymraeg Yn Unig

Panel Trafod: Yr Hengerdd a Dafydd ap Gwilym

Disgrifiad

Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod Yr Hengerdd a cherddi Dafydd ap Gwilym.

Yn ystod y sesiwn, ceir trafodaeth ar waith Aneirin, Talieisin a Dafydd ap Gwilym gan arbenigwyr ar yr hengerdd a'r cywyddau, sef Yr Athro Jerry Hunter, Dr Aled Llion Jones a'r Athro Peredur Lynch, y tri o Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor.

Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 13 sy'n astudio ar gyfer arholiad Cymraeg (Uned 5) ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith y beirdd hyn.

Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mai 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Chwilio am fwy o adnoddau adolygu? Gwyliwch ein sesiynau adolygu Ar-lên sydd ar gael yma neu yma.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Mân Lun Panel Trafod Hengerdd

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.