Croeso i ‘Sôn am Sgwennu’, adnodd gan Dr Llion Pryderi Roberts, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy’n cyflwyno cyfres o drafodaethau am ysgrifennu creadigol cyfoes.
Mae’r adnodd yn cynnwys:
Podlediad ‘Sôn am Sgwennu’ – recordiadau o sgyrsiau â 4 awdur profiadol sy’n canolbwyntio ar y broses ymarferol o ysgrifennu ac ar agweddau perthnasol i’w gwaith ac i astudio’r maes:
- Caryl Lewis
- Ifor ap Glyn
- Annes Glynn
- Llŷr Gwyn Lewis
Mae'r adnodd hefyd yn cynnwys dogfen i bob recordiad sy’n nodi’r cwestiynau a ofynnwyd ac sy’n nodi’n fras y codau amser perthnasol ar gyfer pob cwestiwn (fel bod modd gwrando ar y recordiad o’i gwr neu symud o un cwestiwn i’r llall)
Ysgrifau ‘Sôn am Sgwennu’ – 8 ysgrif fer sy’n trafod agweddau perthnasol i’r broses o ysgrifennu’n greadigol ac i astudio’r maes:
- ‘Ysgrifennu Creadigol: Dechrau arni a datblygu syniad’, Llion Pryderi Roberts
- ‘Sgrifennu’, Elinor Wyn Reynolds
- ‘Cymeriadu’, Megan Angharad Hunter
- ‘Creu Cerdd’, Mari George
- ‘Perlau mân Llwyd Owen’
- ‘Annwyl Leo, Annwyl Iestyn: Proses gydweithredol cyfres Y Pump’, Iestyn Tyne a Leo Drayton
- ‘Sgwennu Nofel’, Marlyn Samuel
- ‘Ysgrifennu i Blant’, Casia Wiliam
Adnodd ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch yn bennaf yw ‘Sôn am Sgwennu’, ond gall fod yn berthnasol i ddisgyblion UG a Safon Uwch, athrawon, ac unrhyw un sy’n ymddiddori ym maes ysgrifennu creadigol.
Dyfarnwyd nawdd ar gyfer yr adnodd hwn drwy gyfrwng cynllun Grantiau Bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Hoffwn ddiolch i’r Coleg, i’r holl awduron am eu parodrwydd i gymryd rhan yn y prosiect ac i’m cydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cymorth parod.