Ychwanegwyd: 18/11/2025 Dyddiad cyhoeddi: 2025 15 Cymraeg Yn Unig

Darlith Edward Lhuyd 2025: Yr Athro Jane Aaron

Disgrifiad

Traddodwyd Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2025 gan yr Athro Jane Aaron yn Pontio, Bangor, ar 18 Tachwedd 2025. Y testun oedd Colli Gwyrddni: Ecofeirniadaeth a gwaith rhai o feirdd Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ogystal â dadansoddi llenyddiaeth sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd, mae nod gwleidyddol i ecofeirniadaeth, sef dyfnhau ein dealltwriaeth hanesyddol o achosion yr argyfwng amgylcheddol presennol a’n ymnerthu i wrthsefyll y rhai a fyn ei ddiystyru. Yn y ddarlith hon byddwn yn ystyried gwaith barddonol rhai o Gymry’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y trawsffurfiwyd eu bywydau gan y chwyldro diwydiannol, ac yn gofyn a oes neges i ni heddiw yn eu hymateb hwy i golli gwyrddni?

Athro Emerita yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron ac awdur Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a enillodd Wobr Goffa Ellis Griffith ym 1999, Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales a enillodd Wobr Roland Mathias yn 2009, y gyfrol Welsh Gothic (2013), a’i cofiant Cranogwen a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol Creadigol yn 2024.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Amgylcheddol, Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
mân lun darlith edward llhuyd 2025

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.