Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 853

Hedd Wyn: Canrif o Gofio

Disgrifiad

100 mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, Ifor ap Glyn sy'n olrhain hanes ei fywyd. Yn 2013, gwerthodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, Yr Ysgwrn i Barc Cenedlaethol Eryri. Dyma lle magwyd y bardd, a chawn weld sut y cafodd y ffermdy a'r tai allan eu trawsnewid yn ganolfan i ymwelwyr fodern, i warchod etifeddiaeth Hedd Wyn i'r dyfodol. Dilynwn ôl troed y bardd i Abercynon, i ddysgu am y tri mis y treuliodd yno fel glöwr, cyn symud ymlaen i Lerpwl i ymweld â rhai o'r lleoliadau a fyddai wedi bod yn gyfarwydd iddo yn ystod ei gyfnod yno yn hyfforddi fel milwr. Yn Ffrainc a Belg, dilynwn gamau olaf y bardd, a chlywed am y modd y cwblhaodd ei awdl fuddugol i Eisteddfod Genedlaethol 1917 tra'n martshio i gyfeiriad y frwydr a fyddai'n hawlio ei fywyd. Tra bod Hedd Wyn ei hun wedi tyfu yn eicon cenedlaethol, felly hefyd y gadair a enillodd yn Eisteddfod Birkenhead - Y Gadair Ddu. Yn Sanclêr, ar ymweliad â gweithdy Hugh Hayley, y dyn sy'n gyfrifol am y gwaith adfer arni, caiff Ifor ryfeddu ar waith cerfio cywrain y Belgiad Eugeen Vanfleteren, ffoadur o'r rhyfel a ymsefydlodd yn Birkenhead ac a gomisynwyd i greu'r Gadair. Gyda chymorth rhai o lythyrau'r bardd, erthyglau papur newydd, a chyfweliadau prin a recordiwyd gyda'i ffrindiau a'i deulu yn ystod y 60au a'r 70au, mae Ifor yn ail-asesu bywyd ac etifeddiaeth y bardd. Pam fod y stori hon yn parhau i gydio yn'om ni? Beth fyddai Hedd Wyn wedi ei gyflawni petai ond wedi cael byw? Efallai bod rhain yn gwestiynau na ellir eu hateb yn llawn, ond mae un peth yn sicr, y bydd enw Hedd Wyn yn parhau i atsain ar hyd yr oesau.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Astudiaethau Ffilm, Teledu a Chyfryngau, Drama ac Astudiaethau Perfformio, Cymraeg
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.