Ychwanegwyd: 01/12/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 313 Cymraeg Yn Unig

Darlith Edward Lhuyd 2023:Dr Carol Bell

Disgrifiad

Teitl y ddarlith: Her pawb i greu dyfodol cynaliadwy: gweld y patrwm a buddsoddi ar gyfer y tymor hir

Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2023 gan Dr Carol Bell. 

Bu Dr Bell yn gyn Reolwr Gyfarwyddwr y Global Oil & Gas Group yn y Chase Manhattan Bank (1997 i 1999) a, chyn hyn, yn bennaeth adran Ymchwil Ecwiti Ewropeaidd JP Morgan yn Llundain. Enillodd radd MA mewn Gwyddorau Naturiol (Biocemeg) o Brifysgol Caergrawnt, BA mewn Gwyddorau Daear (Daeareg) o'r Brifysgol Agored ac MA a PhD gan Sefydliad Archeoleg Coleg Prifysgol Llundain.

Yng Nghymru, mae hi'n aelod o nifer o fyrddau, gan gynnwys, Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Sefydliad Cyfarthfa, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae newydd ymddeol o fyrddau Banc Datblygu Cymru, Amgueddfa Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae hi hefyd ar gyngor Research England, ac ar fyrddau’r National Physical Laboratory a Museum of London Archaeology yn ogystal â thri cwmni cyhoeddus rhyngwladol.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Ieithyddiaeth, Daearyddiaeth
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
dr carol bell

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.