Recordiad o weminar a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2026. Cyflwyniad i staff academaidd sy’n awyddus i ddatblygu eu presenoldeb proffesiynol ar LinkedIn. Yn ystod y cyflwyniad byddi di’n dysgu sut i ddefnyddio’r platfform yn effeithiol i: Rwydweithio’n broffesiynol Hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau Datblygu a chryfhau dy broffil academaidd Meithrin hyder i rannu cynnwys Ymgysylltu â myfyrwyr a phartneriaid Rhannu dy waith Adeiladu a thyfu rhwydweithiau newydd yn dy faes Cyflwynir y gweithdy gan Mari Gwenllian Roberts ac Elinor Churchill o Adran Gyrfaoedd Prifysgol Bangor. Ceir hefyd gyfraniadau gan Dr Miriam Elin Jones o Brifysgol Abertawe, a Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor yn rhannu arferion da a phrofiadau personol o ddefnyddio LinkedIn yn broffesiynol.
LinkedIn i Staff Academaidd
Ynni Adnewyddol - manteision i weithio ar y tir
Cyflwyniad gan Dr Paula Roberts ar sut mae ynni adnewyddol fod o fudd i ffermwyr a chymunedau cefn gwlad Cymru. Mae Paula yn esbonio manteisio ynni solar, hydro, gwynt, ac ailgylchu er mwyn arbed arian i fusnesau amaethyddol a chreu incwm drwy werthu ynni i'r Grid Cenedlaethol. Mae Paula yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor a bellach yn gadeirydd cwmni nid-er-elw, 'Ynni Cymru'.
Cyflwyniad i NVivo
Cyfres o fideos yn rhoi cyflwyniad i NVivo gan Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Mae NVivo yn feddalwedd gyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu, trefnu, dadansoddi a dehongli data ansoddol. Gellir ei defnyddio i ddadansoddi data o ddulliau ymchwil ansoddol megis cyfweliadau, grwpiau ffocws, holiaduron a thrawsgrifiadau drwy godio’r data ac adnabod themâu a phatrymau. Cynhelir gweithdy ar-lein ar 1 Mehefin am 2pm i gyd-fynd â’r adnodd hwn. Gallwch gofrestru ar gyfer y gweithdy yma.
Nabod Stori
Adnodd yw hwn i helpu myfyrwyr a disgyblion TGAU a Lefel Uwch sut i adnabod llinell dop stori newyddion afaelgar. Mae’r adnodd yn un digidol rhyngweithiol lle gall defnyddwyr ddysgu oddi wrth un o newyddiadurwyr gorau Cymru, Will Hayward, yn ogystal â newyddiadurwr digidol Reach, Ben Peris a Golygydd Tafod Prifysgol Caerdydd 2025/26 Hannah Williams. Mae cyfarwyddiadau ar bob cam am sut i ddefnyddio’r adnodd.
Plymio
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Plymio, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y pedair uned ganlynol: 205PH: Deall Egwyddorion Gwyddonol 207PH: Deall Systemau Dŵr Oer 208PH: Deall Systemau Dŵr Poeth 209PH: Deall Systemau Gwres Canolog Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gosod Brics
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Gosod Brics, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y tair uned ganlynol: 204: Gwybodaeth graidd gosod brics 205: Gosod allan i godi strwythurau gwaith maen 206: Gosod strwythurau gwaith maen. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Deunydd Hyrwyddo Lefel A Cymraeg 2026
Chwilio am fideos neu bosteri i hyrwyddo Lefel A Cymraeg? Dyma fersiynau newydd ar gyfer 2026 - yn cynnwys cyfraniadau gan Doctor Cymraeg, Lili Mai Jones, Francesca Sciarrillo, Gwion Ifan a Sara O'Connor. Addas ar gyfer iaith gyntaf ac ail iaith, gyda deunydd Doctor Cymraeg a Francesca Sciarrillo yn benodol ar gyfer hyrwyddo astudio Lefel A Cymraeg ail iaith.
Ap Adeiladu trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cefnogaeth i allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â maes Adeiladu. Mae'r ap wedi'i rannu mewn i'r adrannau canlynol: Cyffredinol Sgwrsio Adeiladu Gwaith Brics Plastro Soled Plymio Trydan Iechyd a Diogelwch Cymorth Cyntaf Anafiadau Gorchmynion Gyrfaoedd mewn adeiladu Offer
Canllawiau Asesu Dwyieithog mewn Cymhwyster Lefel 3 Gofal Plant
Mae’r adnodd hwn yn cynnig argymhellion i diwtoriaid, aseswyr ac ymarferwyr sy’n cyflwyno cymhwyster Lefel 3 Gofal Plant yn ddwyieithog. Ei nod yw cefnogi dysgwyr i gwblhau o leiaf hanner o’u hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu eu hyder a’u gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’n cynnwys taenlen sy’n darparu syniadau ar gyfer tasgau asesu crynodol a ffurfiannol, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer elfennau o’r cymhwyster y gall tiwtoriaid ac aseswyr eu targedu drwy’r Gymraeg. Mae’r daenlen yn cynnwys tudalen ar gyfer pob un o’r unedau gorfodol (300, 332, 301, 302 a 303), yn ogystal â thudalennau ar gyfer yr unedau dewisol (304, 305 a 306). Mae modd cael mynediad at ffeithluniau dwyieithog sy’n amlinellu llwybr clir a gweledol ar gyfer cyflawni asesiadau dwyieithog ym maes Gofal Plant. Gellir addasu cynnwys y ffeithluniau i ddiwallu anghenion dysgwyr a gofynion sefydliadau unigol.
Canllawiau Asesu Dwyieithog mewn Cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal
Mae’r adnodd hwn yn darparu argymhellion i diwtoriaid, aseswyr ac ymarferwyr sy’n cyflwyno cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal yn ddwyieithog. Ei nod yw cefnogi dysgwyr i gyflwyno o leiaf hanner eu hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu eu hyder a’u gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r adnodd yn cynnwys taenlen sy’n cynnig syniadau ar gyfer tasgau asesu crynodol a ffurfiannol, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer elfennau o’r cymhwyster y gall tiwtoriaid ac aseswyr eu targedu drwy’r Gymraeg. Ceir tudalen yn y daenlen ar gyfer pob un o’r unedau hanfodol (Unedau 1–6). Mae modd cael mynediad at ffeithluniau dwyieithog sy’n amlinellu llwybr clir a gweledol ar gyfer cyflawni asesiadau dwyieithog fesul uned ym maes Iechyd a Gofal. Gellir addasu cynnwys y ffeithluniau i ddiwallu anghenion dysgwyr a gofynion sefydliadau unigol.
Cynefino Gyda Hanes Cymru
Pwrpas y Llawlyfr ydy: rhoi gorolwg o themâu yn Hanes Cymru sy’n plethu gyda chysyniad eangfrydig o ‘Gynefin’, yn arbennig mewn cyswllt â’r Cwricwlwm i Gymru yn y Dyniaethau cyflwyno syniadau a thechnegau i athrawon, disgyblion a myfyrwyr am sut i fynd ati i ymchwilio ‘Cynefin’ o bersbectif hanesyddol. Datblygwyd yr adnodd gan Dr Mari Wiliam, Dr Lowri Ann Rees, a Dr Leona Huey.
Cofrestru awtomatig: arferion da
Dyma gasgliad o fideos gan staff yn rhannu arferion da o weithredu cofrestru awtomatig, ynghyd â phrofiadau dysgwyr o’r cynllun. Mae cofrestru awtomatig yn arfer sy’n cynyddu ar draws y sector, gyda chefnogaeth ac anogaeth y Coleg Cymraeg, er mwyn hwyluso mynediad myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’n golygu bod myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yn cael eu cofrestru ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn awtomatig, yn hytrach nag ar ddarpariaeth cyfrwng Saesneg. Am ragor o wybodaeth a chyngor ar sut i weithredu cofrestru awtomatig, cysylltwch â Swyddog Cangen y Coleg yn eich sefydliad.
