Ychwanegwyd: 21/10/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 811 Dwyieithog

Pecyn Cefnogi Tiwtoriaid Addysg Bellach

Disgrifiad

Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26. Defnyddir y set ddata i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru.

Nod yr adnoddau yw rhoi hyder i diwtoriaid yn y ffordd y cofnodir gweithgarwch a gwblhawyd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar y LLWR, a’u helpu i ganfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd hefyd i roi cyngor ymarferol i diwtoriaid ar sut i symud eu haddysgu i fyny’r continwwm dwyieithrwydd.

Mae’r pecyn yn cynnwys:

  • Llawlyfr - dogfen waith y gellir ei defnyddio i gyfeirio ati, yn ogystal ag i sefydlu targedau personol penodol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg/dwyieithog.
  • Cwrs e-ddysgu ar-lein - Deall Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR). Mae’r modiwl dysgu ar-lein rhyngweithiol hwn yn rhoi trosolwg o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a sut y caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru.
  • Ap geirfa ddwyieithog Sgiliaith - ‘Ap Adborth Sgiliaith’ - Yn yr ap hwn ceir ystod eang o eiriau ac ymadroddion cyffredinol y gall tiwtoriaid eu defnyddio i roi adborth a phrofiadau Cymraeg/ dwyieithog i ddysgwyr.

Mae dolenni i'r adnoddau ar gael isod ac maent hefyd ar gael ar wefan Sgiliaith sgiliaith@gllm.ac.uk

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, Addysg Oedolion
Perthyn i
Amaethyddiaeth, Astudiaethau Busnes, Gwasanaethau Cyhoeddus, Astudio drwy'r Gymraeg, Sgiliau ac Ymwybyddiaeth Iaith, Trawsddisgyblaethol, Gofal Plant, Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Ap
mân lun logo Sgiliaith

Tanysgrifio

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.