Crëwyd yr adnodd ar-lein hwn gan ddarlithwyr o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio (GEOPL) Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr cynllunio sy’n siarad Cymraeg. Y nod yw rhoi rhywfaint o wybodaeth bellach a chipolwg ar fod yn gynllunydd yng Nghymru. Mae'n cynnwys pedwar fideo o siaradwyr Cymraeg yn trafod gwahanol agweddau o fod yn gynllunydd; gweithio yng Nghymru a/neu ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Yn ogystal â hynny, mae rhai dolenni at adnoddau ysgrifenedig a allai fod yn ddefnyddiol. Mae'r tîm prosiect yn gobeithio parhau i ddatblygu’r adnodd yn y dyfodol.
Cynllunio ar gyfer Dyfodol Cymru
Esboniadur Tirfesureg
Adnodd hawdd i'w ddefnyddio sy’n cynnwys diffiniadau ac esboniadau o dermau sy’n ymwneud â phwnc Tirfesureg. Mae’r adnodd ar gyfer nifer o wahanol ddefnyddwyr, gan gynnwys myfyrwyr prifysgol, dysgwyr mewn colegau addysg bellach a gweithwyr yn y sector adeiladu a thirfesureg. Bydd o fudd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru o ran terminoleg sy’n berthnasol i gynlluniau datblygu lleol a cheisiadau cynllunio. Mae’r cofnodion wedi’u rhannu’n ddau gategori, sef tirfesureg pur a thirfesureg tir ac eiddo. Mae’r adnodd yn ffrwyth gwaith Adran Amgylchedd Adeiledig Prifysgol De Cymru.
Darganfod Caerdydd – Huw Thomas
Mae'r llyfr hwn yn esbonio cefndir a chyd-destyn yr etifeddiaeth hanesyddol unigryw sydd wedi cynhyrchu'r Gaerdydd sy'n bodoli heddiw. Ffocws y llyfr ydy cynllunio a datblygiadau ffisegol y ddinas, er enghraifft, y trawsnewidiad ym Mae Caerdydd. Bydd y llyfr yn ddefnyddiol fel rhan o fodiwlau ar ddaearyddiaeth trefol ac adfywiad trefol, ac hefyd ar gyfer ymweliadau astudiaethol, lle gall y myfyrwyr dilyn Taith Gerdded Bae Caerdydd.
Modiwl Cyflwyniad i Gynllunio Gofodol (CP0110)
Datblygwyd y deunydd yma i gydfynd â modiwl CP0110 Cyflwyniad i Gynllunio Gofodol, modiwl lefel 4 ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r modiwl yn edrych ar darddiad cynllunio gofodol ym Mhrydain ac yn esbonio sut mae'r system bresennol wedi esblygu. Rhoddir sylw arbennig i'r themâu allweddol sy’n dod i'r amlwg o gynllunio Prydeinig: ei ymddangosiad fel gweithgaredd llywodraeth leol; effaith proffesiynoldeb a meddylwyr 'llawn gweledigaeth'; newid ideolegau gwleidyddol; a newidiadau yng nghraddfeydd gofodol cynllunio.
Modiwl Theori ac Ymarfer Cynllunio (CP0312)
Datblygwyd y deunydd yma i gydfynd â modiwl CP0312 Theori ac Ymarfer Cynllunio, modiwl lefel 6 ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhestr Darlithoedd: Amlinelliad o gynnwys y modiwl 1a. Theori ac Arfer 1b. Modelau proffesiynoldeb 2. Proffesiynoldeb fel ffordd o ddeall y byd 3. Rhesymoledd a Chynllunio 4. Cynllunio ac ansicrwydd 5. Cynllunio a Threfn Adborth ac arweiniad ar gwrthgyferbynnu Jacobs a Schön Budd y Cyhoedd Cyfiawnder a Chynllunio: 1